Mae cyfle i un ai Bangor neu glwb Cei Connah gau’r bwlch rhyngddyn nhw a’r Y Seintiau Newydd heno yn Nantporth, oherwydd fe fydd y pencampwyr yn herio Dumbarton y penwythnos hwn yn rownd gyn-derfynol Cwpan Irn-Bru.

Mae Bangor yn bedwerydd ar hyn o bryd, dri phwynt y tu ôl i Gei Connah, sydd yn yr ail safle yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae’r Nomadiaid ar rediad, gyda dim ond un golled yn eu saith gêm ddiwethaf, ond mae Bangor  wedi ennill tair a dwy gêm gyfartal yn y pum gêm cynghrair diwethaf.

“Rydan angen bownsio’n ôl heno yn erbyn Cei Connah,” meddai Guto Williams, amddiffynnwr ifanc Bangor, wrth golwg360. “Doeddan ni ddim yn ddigon da yr wythnos dwytha’ yn erbyn y Seintiau Newydd.

“Mae angen i ni gau’r bwlch yn sydyn i orffen yn ail,” meddai wedyn. “Mae hi wastad yn gêm gorfforol yn erbyn Cei, ac mae’n brofiad da i fi ddysgu’r ochr yna i’r gêm. Dw i yn y garfan, felly gobeithio ga’ i ddechrau’r gêm.”

Canlyniad gwych

“Rydan wedi dechrau’r ail ran o’r tymor heb golli a chawsom ganlyniad gwych wythnos diwethaf yn y brifddinas yn erbyn Met Caerdydd,” meddai amddiffynnwr Cei Connah, Jake Phillips, wrth golwg360.

“Y gobaith ydi bod y rhediad yn para heno ym Mangor, er mwyn cadw’r bwlch rhyngddan ni a Bangor, cyn y ddwy gêm yn erbyn y Seintiau yn y cwpan a’r gynghrair.

Gemau eraill 

Heno (nos Wener) ar Goedlan y Parc, fe fydd tîm Neville Powell, Aberystwyth, yn gobeithio parhau â’r perfformiad gwych wythnos diwethaf yn erbyn Llandudno. Prestatyn sy’n teithio i Aberystwyth ac mae angen tri phwynt ar y tîm o Erddi Bastion. Mae tîm y rheolwr newydd Gareth Wilson ar waelod y tabl ddeg pwynt tu ôl  i Aberystwyth sy yn y degfed safle.

Mae Neville Powell hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Rheolwr y mis, Ionawr, ynghyd â Huw Griffiths (Derwyddon Cefn), Chris Hughes (Y Drenewydd) a Scott Ruscoe (Y Seintiau Newydd).

Gweddill gemau’r penwythnos

Met Caerdydd v Derwyddon Cefn

Llandudno v Caerfyrddin

Y Drenewydd v Y Barri