Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock wedi canmol proffesiynoldeb ei dîm ar ôl i fuddugoliaeth dros Bolton neithiwr fynd â nhw o fewn un pwynt i’r safleoedd codi awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr.

“Roedden ni’n broffesiynol ac roedd angen i ni fod,” meddai Neil Warnock. “Roedden ni’n gadarn yn y cefn ac fe sgorion ni ddwy gôl dda.

“Rhaid i ni fwynhau’r eiliad,” meddai’r rheolwr ar ôl i’w dîm symud i’r pedwerydd safle yn y tabl – safle a fyddai’n sicrhau lle iddyn nhw yn y gêmau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Mewn cyfweliadau wedyn, fe ddywedodd Neil Warnock ei fod yn mwynau ei waith ac fe anogodd ei chwaraewyr i wneud yr un peth.

“Allwn ni ddim disgyn bellach, felly waeth i ni fwynhau,” meddai.

Bydd yr Adar Gleision yn herio Middlesbrough yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, wrth i Neil Warnock rybuddio y bydd y tîm o ogled-ddwyrain Lloegr yn dod i Gymru i ennill.