Wrth i dîm pêl-droed Porto baratoi i herio Lerpwl yng Nghynghrair y Pencampwyr heno, mae eu rheolwr wedi llongyfarch ei gydwladwr, rheolwr Abertawe Carlos Carvalhal.

Llwyddodd yr Elyrch i guro Lerpwl o 1-0 fis diwethaf wrth i’w hadfywiad barhau o dan y gŵr o Bortiwgal, ac mae Sergio Conceicao yn dweud bod Carvalhal wedi dod â “bri” i bêl-droed yn y wlad.

Ar ôl y fuddugoliaeth bwysig, dywedodd Carvalhal fod ei dîm wedi llwyddo i stopio ‘car Fformiwla un yng nghanol traffig’ – un o’r disgrifiadau lliwgar sy’n nodweddiadol o’i gyfnod wrth y llyw.

Mae’r Elyrch bellach wedi codi o’r safleoedd disgyn yn Uwch Gynghrair Lloegr a chafodd Carlos Carvalhal ei enwebu ar gyfer gwobr Rheolwr y Mis y mis diwetha’.

“Rwy’n achub ar y cyfle hwn i longyfarch Carlos Carvalhal am yr hyn mae e’n ei wneud yn yr Uwch Gynghrair,” meddai Sergio Conceicao.

 

Roedd rheolwr Abertawe a rheolwr Wolves, Nuno Espirito Santo, yn “dod â bri i bêl-droed Portiwgal”, meddai.