Fe fydd myfyriwr o Goleg Menai yn cymryd rhan yn nhwrnamaint Roma Caput Mundi yn Lazio yn yr Eidal gyda thîm dan-18 oed Colegau Cymru – a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.

Bydd Harri Hughes o Bencaenewydd ger Pwllheli yn teithio i’r cyfandir yr wythnos hon.

“Dw i’n edrych ymlaen, mae’n brofiad gwych i chwarae yn erbyn timau o dramor fel yr Eidal a Rwmania,” meddai Harri Hughes wrth golwg360. Mae’n chwarae i dim dan-19 Bangor yn Uwch Gynghrair Ddatblygu Cymru.

“Mae’r safon yn uchel, ac mae chwaraewyr Rwmania a’r Eidal gyda thechneg arbennig, ac mae cyflymdra’r gemau yn wahanol i be’ dw i di arfer efo fo adref. Mae’r gemau yn dechnegol, ac mae llawer  o waith paratoi i’w wneud cyn y gemau.

“Dw i’n falch iawn i gael fy newis eto y flwyddyn yma,” meddai wedyn. “Er mai dim ond 17 oed ydw i’n dw i’n gobeithio y galla’ i basio ymlaen dipyn o’r profiad o’r flwyddyn ddiwethaf i’r hogiau.

“Hefyd, mae’n rhaid cofio mae’r trip yn fwy na chwarae pêl-droed, mae’n addysgol oherwydd rydan yn mynd i ymweld á’r ddinas hanesyddol a mynd i weld y Stadiwm Olympaidd.”

 

Y garfan lawn

Karter Cutler-Evans (Cambria); Taylor Evans (Gŵyr); Ben Fawcett (Penfro); Latten Garrett (CAVC); Conor Harwood (Cambria); Harri Hughes (Menai); Osian Jones (Menai); Evan Lloyd (Cymoedd); Harri Lucas-Jones (Cambria); Joe Mellars (Pen-y-bont), Connor Phelan (Pen-y-bont); Keane Royall (Gwent); Sam Snaith (Pen-y-bont); Ben Vanstone (Pen-y-bont); Jackson White (Sir Gâr); Luke Wilmot (Llandrillo); Jack Wilson (Penfro) a Jay Wooford (Cymoedd).