Millwall 1–1 Caerdydd                                                                     

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Gaerdydd ymweld â Llundain i herio Millwall yn y Den nos Wener.

Collodd yr Adar Gleision gyfle i godi i dri uchaf y Bencampwriaeth cyn i’r timau eraill ar frig y tabl chwarae yfory.

Rhoddodd Junior Hoilett yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen wedi dim ond tri munud gyda rhediad ac ergyd dda o bellter ar ôl dwyn y bêl oddi ar Mahlon Romeo ar y chwith.

Felly yr arhosodd hi tan bum cyn yr egwyl pan unionodd Lee Gregory gydag ergyd dda o groesiad isel Jed Wallace.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r ail hanner hefyd ond prin oedd cyfleoedd clir yn y ddau ben wrth iddi aros yn gyfartal.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn bedwerydd yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Millwall

Tîm: Archer, Romeo, Hutchinson, Cooper, Meredith, Wallace, Tunnicliffe, Saville, Marshall (Onyedinma 79’), Gregory (Cahill 90’), Morison

Gôl: Gregory 40’

Cardiau Melyn: Romeo 2’, Cooper 71’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Paterson, Grujic (Halford 27’), Ralls, Mendez-Laing (Damour 78’), Madine (Zohore 82’), Hoilett

Gôl: Hoilett 3’

.

Torf: 13,204