Mae’n ddiwrnod i’w gofio i reolwr tîm pêl-droed Casnewydd, Michael Flynn, heddiw wrth iddo gael estyniad i’w gytundeb ar y diwrnod y mae’n mynd â’i dîm i Wembley.

Bydd yr Alltudion yn herio Spurs mewn gêm ail gynnig heno wrth iddyn nhw geisio cyrraedd pumed rownd Cwpan FA Lloegr – er mor annhebygol yw hynny, yn ôl arbenigwyr.

Roedd y rheolwr wedi’i gysylltu â swydd rheolwr Bradford yr wythnos hon, ond fe fydd ei gytundeb newydd yn ei gadw ar Rodney Parade tan 2020.

Fe gafodd e dymor llwyddiannus y tymor diwethaf wrth gadw’r Cymry yn yr Ail Adran pan oedd hi’n ymddangos eu bod am syrthio.

‘Wrth ei fodd’

Dywedodd Michael Flynn ei fod e “wrth ei fodd” o gael llofnodi’r cytundeb newydd, a’i dîm yn unfed ar ddeg yn y gynghrair, bum pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle.

Fe gawson gawson nhw eu cyfle mawr i fynd i Wembley wrth gadw Spurs i gêm gyfartal 1-1 fis diwethaf a, phetaen nhw’n ennill, fe fyddai gobaith i fynd ymhellach fyth.

Fe fydd enillwyr y gêm yn herio Rochdale oddi cartref ar Chwefror 18 (4 o’r gloch).

Y timau

Fe fydd Spurs heb Lucas Moura gan nad yw e wedi’i gofrestru mewn da bryd, ond fe allai Toby Alderweireld a Danny Rose ddychwelyd yn dilyn anafiadau.

Mae’r rheolwr Mauricio Pochettino wedi dweud ei fod yn cymryd y gêm o ddifri, er bod disgwyl iddo roi’r cyfle i rai chwaraewyr orffwys cyn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Arsenal ddydd Sadwrn.

Fe fydd yr Alltudion heb yr amddiffynnwr Ben White, sydd wedi anafu ei goes, a Sean Rigg, sydd wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol er mwyn dilyn gyrfa fel artist tatŵs.

Fe fu helynt ar drothwy’r gêm, ac fe fu’n rhaid i Michael Flynn ymddiheuro ar ôl i bapurau newydd gael gafael ar wybodaeth o ffeil gyfrinachol am wendidau Spurs.