Mae Clwb Pêl-droed Caerfyrddin wedi apwyntio Neil Smothers yn rheolwr dros dro. Mae’n gyn chwaraewr ac is -reolwr gyda’r clwb.

Fe ddaw’r apwyntiad wedi i’r clwb ddiswyddo Mark Aizlewood, wedi i hwnnw gael ei ddyfarnu’n euog o dwyll yn Llys y Goron Southwark.

Meddai Cadeirydd y clwb, Chris Edwards: “Mae Neil yn aelod profiadol o dîm hyfforddi’r clwb, ac mae gan bawb ffydd yn ei allu i arwain y garfan yn ystod y frwydr yn erbyn disgyn o Uwch Gynghrair Cymru.”

Fe gurodd yr Hen Aur Brestatyn ddydd Sadwrn diwethaf, gyda Mark Jones a Luke Bowen, sydd wedi ail ymuno á’r clwb, yn sgorio gôl yr un yn ystod y fuddugoliaeth.

Gém gyntaf Neil Smothers wrth y llyw fydd honno yn erbyn y Drenewydd gartref brynhawn dydd Sadwrn nesaf (Chwefror 10).