Colchester 2–0 Casnewydd                                                            

Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt deithio i Stadiwm Cymunedol Colchester yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Ben Stevenson Tom Eastman wrth i Colchester ei hennill hi gyda dwy gôl yn yr ail hanner.

Ychydig llai nag awr a oedd ar y cloc pan greodd Courtney Senior y gyntaf i Stevenson a dyblodd Eastman y fantais ddeg munud o’r diwedd.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Colchester dros yr Alltudion yn y tabl wrth i Gasnewydd lithro i’r unfed safle ar ddeg.

.

Colchester

Tîm: Walker, Eastman, Kent, Prosser, Jackson, Comley, Murray (Stevenson 49’), Vincent-Young, Guthrie (Ogedi-Uzokwe 88’), Senior (Szmodics 74’), Mandron

Goliau: Stevenson 57’, Eastman 80’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Reid (Osadebe 74’), O’Brien, Demetriou, Butler, Tozer, Labadie, Folan (McCoulsky 62’), Willmott, Amond (Hayes 58’), Nouble

Cardiau Melyn: O’Brien 23’, Hayes 67’

.

Torf: 2,874