Leeds 1–4 Caerdydd                                                                          

Sgoriodd Caerdydd bedair wrth drechu deg dyn Leeds ar Elland Road yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Adar Gleision ddwy gôl ar y blaen cyn cerdyn coch Berardi ac roedd hi’n brynhawn digon cyfforddus wedi hynny.

Aeth y Cymry ar y blaen wedi dim ond naw munud gyda pheniad Callum Paterson o groesiad Armand Traore.

Dyblodd Junior Hoilett y fantais bum munud cyn yr egwyl pan wyrodd ergyd Paterson i gefn y rhwyd.

Derbyniodd Geatano Berardi ei ail gerdyn melyn o’r hanner yn hwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau a chafodd y deg dyn eu cosbi ym mhellach pan beniodd Sean Morrison drydedd yr ymwelwyr o gic rydd Hoilett.

Rhoddodd gôl i’w rwyd ei hun gan Sol Bamba lygedyn o obaith i Leeds yn yr ail hanner ond diflannodd hwnnw pan rwydodd Anthony Pilkington bedwaredd Caerdydd dri munud o’r diwedd.

Mae’r fuddugoliaeth gyfforddus yn cadw tîm Neil Warnock yn bedwerydd yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Leeds

Tîm: Wiedwald, Berardi, Pennington, Jansson (Dallas 30’), De Bock, Forshaw, Vieira (Grot 86’), Alioski, Roofe, Hernandez, Lasogga (Sacko 74’)

Gôl: Bamba [g.e.h.] 54’

Cardiau Melyn: Berardi 26’, 45+4’

Cerdyn Coch: Berardi 45+4’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Paterson, Grujic (Halford 82’), Ralls, Traore, Wildschut (Pilkington 53’), Hoilett, Madine (Zohore 72’)

Goliau: Paterson 9’, Hoilett 41’, Morrison 45+5’, Paterson 88’

Cardiau Melyn: Madine 35’, Ralls 45+1’, Pilkington 79’. Grujic 81’

.

Torf: 30,534