Lincoln 3–1 Casnewydd                                                                   

Tridiau wedi eu gêm gyfartal gofiadwy yn erbyn Spurs ar Rodney Parade, colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt ddychwelyd i’r Ail Adran i wynebu Lincoln oddi cartref yn Sincil Bank nos Fawrth.

Er mai cyfartal, gôl yr un, a oedd hi ar yr egwyl fe rwydodd Lincoln ddwy arall i gipio’r tri phwynt yn yr ail hanner.

Peniodd Matt Rhead y tîm cartref ar y blaen yn gynnar ond roedd Casnewydd yn gyfartal wrth droi diolch i Padraig Amond.

Adferodd Matt Green fantais Lincoln wedi pas Rhead yn gynnar yn yr ail gyfnod ac fe ddiogelodd Ollie Palmer y tri phwynt ddeunaw munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi Lincoln dros Gasnewydd wrth i’r Alltudion lithro i’r degfed safle yn y tabl.

.

Lincoln

Tîm: Farman, Eardley, Bostwick, Waterfall, Habergham, Rowe (Williams 79’), Freckington, Woodyard, Anderson, Rhead (Wilson 62’), Green (Palmer 71’)

Goliau: Rhead 13’, Green 51’, Palmer 73’

Cerdyn Melyn: Eardley 25’, Palmer 90+6’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Tozer, White, Demetriou (Sheehan 80’), Butler, Dolan, Labadie, Bennett, Willmott, Amond (Hayes 80’), Nouble (McCoulsky 67’)

Gôl: Amond 32’

Cardiau Melyn: White 12’, Bennett 40’

.

Torf: 7,567