Mae hanes diweddar o blaid tîm pêl-droed Caerdydd wrth iddyn nhw groesawu Manchester City i Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw (4 o’r gloch) ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Er mai dim ond naw allan o 50 o gemau mae’r Cymry wedi’u hennill, fe gawson nhw fuddugoliaethau mawr dros y degawdau diwethaf, yn y gystadleuaeth hon yn 1994 pan oedd Caerdydd yn y Drydedd Adran, ac yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2013.

Mae Man City wedi ennill 20 o gemau, ac maen nhw wedi bod yn gyfartal 20 o weithiau.

Ac yn ôl rheolwr Caerdydd, Neil Warnock, mae Man City yn “hyfryd i’w gwylio”.

“Pan allwch chi brynu chwaraewyr gorau’r byd, dyw hynny ddim o reidrwydd yn golygu y bydwch chi’n llwyddiannus.

“Mae Pep [Guardiola] yn gwella’i dîm bob blwyddyn.

“Fy hoff chwaraewr yn y wlad yw David Silva, ac wedi bod felly ers blynyddoedd. Dw i wedi dwlu ar ei agwedd a’i allu i newid gêm erioed.

“Mae’n brofiad cael chwarae yn erbyn y bois hyn. Dyma ein ‘rownd derfynol’ ni ac fe wnawn ni ein gorau ddydd Sul.”

Perfformiadau diweddar

Mae Caerdydd wedi ennill un gêm yn unig allan o’u saith gêm ddiwethaf ar eu tomen eu hunain yn y gwpan, gan guro Colchester yn 2015.

Ond maen nhw’n ddi-guro mewn pedair gêm ar hyn o bryd y tymor hwn ar draws yr holl gystadlaethau, ac wedi cael naw buddugoliaeth ar eu tomen eu hunain hyd yn hyn.

Y timau

Does dim hawl gan Yanic Wildschut, sydd ar fenthyg o Norwich, chwarae yn y gêm oherwydd ei ymrwymiad blaenorol yn y gystadleuaeth.

Ac fe fydd yr Adar Gleision hefyd heb Aron Gunnarson, Danny Ward, Craig Bryson a Matthew Connolly.

Ond mae newyddion gwell i Man City, sy’n croesawu Kyle Walker yn ei ôl yn dilyn anaf i’w ben.

Mae’n bosib y gallai Vincent Kompany ddychwelyd hefyd, ond mae Phil Foden, Benjamin Mendy, Gabriel Jesus a Fabian Delph i gyd allan.

Man City: Bravo, Walker, Danilo, Kompany (capten), Otamendi, Fernandinho, Bernardo, Gündogan, De Bruyne, Sané, Sterling. Eilyddion: Ederson, Stones, Agüero, Mangala, Adarabioyo, Zinchenko, Diaz

Caerdydd: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison (capten), Paterson, Richards, Grujic, Ralls, Bennett, Mendez-Laing, Hoilett, Zohore. Eilyddion: Tomlin, Feeney, Pilkington, Halford, Damour, Murphy, Bogle