Roedd Spurs wedi “cosbi unig gamgymeriad” Casnewydd neithiwr ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr, yn ôl rheolwr y Cymry, Mike Flynn.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal 1-1 ar ôl i’r Saeson daro’n ôl wyth munud cyn y diwedd drwy Harry Kane, wrth iddo sgorio gôl rhif 30 y tymor hwn.

Roedd y Cymry wedi mynd ar y blaen ar ôl 38 munud wrth i Padraig Amond benio’r bêl i’r rhwyd heibio i gyn-golwr Abertawe, Michel Vorm.

Mae’r canlyniad – y mwyaf yn hanes Casnewydd, efallai – yn golygu y bydd rhaid ail-chwarae’r gêm yn Wembley.

‘Hollol siomedig’

Ar ôl y gêm, dywedodd rheolwr Casnewydd, Mike Flynn ei fod yn “hollol siomedig” na chafodd ei dîm fuddugoliaeth.

“Fe wnaethon nhw roi popeth iddi a dw i’n hollol siomedig eu bod nhw wedi sgorio mor hwyr.

“Roedd hi bob amser yn mynd i fod yn anodd yn yr ail hanner, ond maen nhw wedi fy ngwneud i’r rheolwr mwyaf balch yn y wlad.

“Gadewch i ni fod yn onest, dyna’r unig gamgymeriad wnaethon ni drwy’r dydd ac fe gawson ni ein cosbi.”

Taith i Wembley

Mae Mike Flynn yn disgwyl i’r rhediad yn y gwpan, sy’n cynnwys y daith i Wembley i ail-chwarae’r gêm yn erbyn Spurs, fod yn werth oddeutu £700,000.

“Mae gyda ni drosiant o dros £2.2 miliwn y flwyddyn fel clwb a byddwn i’n dweud bod y rhediad hwn yn y gwpan yn mynd i fod yn werth dros £700,000.

“Mae’n enfawr. Mae’n ein galluogi ni i osod y seiliau ar gyfer y dyfodol a gwneud pethau yn y ffordd gywir.”