Casnewydd 1–1 Morecambe                                                         

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Gasnewydd groesawu Morecambe i Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Rhoddodd Ben Tozer y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Michael Rose achub pwynt i’r ymwelwyr wedi’r egwyl.

Roedd llai na chwarter awr ar y cloc pan rwydodd Tozer wedi gwaith creu Robbie Willmott ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Yn wir, felly yr arhosodd hi tan chwarter awr o’r diwedd pan unionodd Rose o’r smotyn yn dilyn trosedd Joe Day ar Garry Thompson.

Mae’r canlyniad yn gadael yr Alltudion yn wythfed yn nhabl yr Ail Adran ond bydd golygon Mike Flynn a’i dîm yn troi yn awr at y Cwpan FA ac ymweliad Spurs i Gasnewydd nos Sadwrn.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, O’Brien, Demetriou, Butler, Tozer, Bennett, Willmott, Sheehan (Osadebe 46’), Nouble (McCoulsky 73’), Amond (Hyes 85’)

Gôl: Tozer 14’

Cardiau Melyn: Bennett 22’,Willmott 90+3’

.

Morecambe

Tîm: Roche, Muller, Lavelle, Old, McGowan, Kenyon, Campbell (Lang 64’), Rose, Conlan, Ellison, McGurk (Thompson 64’)

Gôl: Rose [c.o.s.] 77’

Cerdyn Melyn: McGurk 31’

.

Torf: 2,754