Mae cymdeithasau pêl-droed Cymru a Lloegr wedi cadarnhau y bydd y ddwy wlad yn herio’i gilydd mewn gêm ryngwladol ‘C’ am y tro cyntaf erioed – ar hynny ar Barc Jenner, Y Barri ar Fawrth 20.

Mae’r Gymdeithas yng Nghaerdydd wedi penodi Mark Jones yn rheolwr ar dîm ‘C’ Cymru, a hynny yn eilyn ei lwyddiant gyda chlybiau Caerfyrddin, Port Talbot a Pharc Maesteg.

“Mae’n fraint aruthrol cael fy mhenodi’n rheolwr ar y tîm yma,” meddai Mark Jones wrth golwg360. “Dw i wedi bod yn ymwneud â’n cynghrair cenedlaethol ers dros ugain mlynedd bellach, a dw i’n credu’n gryf nad yw safon ein pêl-droed domestig yma yng Nghymru’n cael y sylw na’r parch y mae’n ei haeddu.

“O’n i’n ddigon ffodus i arwain Caerfyrddin a Phort Talbot i Ewrop, a dw i’nb awchu am yr her fawr ar Fawrth 20.

“Wrth gwrs bydd Lloegr yn cynnig her a hanner i ni,” meddai wedyn, “ond dw i’n edrych ymlaen yn fawr at achlysur arbennig yn Y Barri yn y gobaith y gall y digwyddiad gael ei ail-adrodd yn gyson yn y dyfodol.”