Mae’r cyn-chwaraewr pêl-droed, John Hartson, wedi dangos ei gefnogaeth i Osian Roberts wrth i drafodaethau ynglyn â’i ddyfodol fel aelod o dîm hyfforddi Cymru barhau.

Roedd Osian Roberts yn is-reolwr Cymru yn ystod teyrnasiad Chris Coleman, ac roedd yn un o’r rhai, ynghyd â Craig Bellamy a Mark Bowen, a gafodd eu cyfweld ar gyfer y swydd rheolwr.

Ac fe gadarnhaodd y dyn ei hun ddoe ei fod wedi siarad â Ryan Giggs, ond nad oes penderfyniad ar ei ddyfodol wedi cael ei wneud eto.

Ond mae John Hartson yn dweud y byddai’n cael ei “synnu” os na fydd Osian Roberts yn cael ei benodi, er ei fod hefyd yn credu na fydd Ryan Giggs yn ei ddewis er mwyn dangos bod ganddo’r gallu i wneud “penderfyniadau mawr”.

“Ydi Ryan Giggs yn dangos ei awdurdod?” meddai wrth BBC Sport Wales heddiw.

“Ydi o’n dweud, ‘dw i’n gallu gwneud y penderfyniadau mawr? Oes unrhyw un yn meddwl fy mod i’n wan, a ddim yn gwneud penderfyniadau mawr?’

“Fe fydd hwn yn un mawr os na fydd yn cynnwys Osh [Osian Roberts].”

“Hyfforddwr arbennig”

Ychwanegodd hefyd y byddai e, o gael bod yn esgidiau Ryan Giggs, yn penodi Osian Roberts i’r tîm yn syth, gan ei fod yn hyfforddwr “arbennig” sy’n boblogaidd gyda’r chwaraewyr a’r cefnogwyr.

“Mae i fyny i Ryan [Giggs] i ddod mewn ag unrhyw un mae eisiau,” meddai eto.

“Dw i’n siŵr ei fod e wedi cael y rhyddid gan y Gymdeithas Bêl-droed Cymru, yn enwedig gan Jonathan Ford [y prif weithredwr], i ddod â’i bobol ei hun.

“Ond dw i’n synnu nad yw’n rhan o’r cytundeb bod Osian ddim wedi cael ei wneud yn aelod o’r tîm yn barod.

“Efallai y bydd yn cael ei ofyn i wneud hynny. Ond mi fydd yn fy synnu os na fydd e [Ryan Giggs] yn defnyddio gwybodaeth Osian am y system…”