Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal yn mynnu bod y tîm “wedi newid” ers iddyn nhw gael crasfa o 5-0 yn Anfield ddiwedd mis Rhagfyr.

Ac yntau ar fin dod yn rheolwr ar y pryd, roedd y gŵr o Bortiwgal yn yr eisteddle ar gyfer y gêm ar Ddydd San Steffan i wylio’r tîm yn chwalu o dan y pwysau ar ôl i’r prif hyfforddwr blaenorol, Paul Clement gael ei ddiswyddo.

Ond yn ôl Carlos Carvalhal, doedd e ddim yn amau ei benderfyniad i ddod i Abertawe, er bod y tîm mewn dyfroedd dyfnion yng ngwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr – lle maen nhw’n dal i fod, er bod perfformiadau wedi gwella’n ddiweddar.

Daw Lerpwl i Stadiwm Liberty heno (nos Lun, 8 o’r gloch) i herio tîm Abertawe sydd bellach yn chwarae â mwy o hyder ac sydd wedi colli dim ond un gêm allan o bump o dan reolaeth Carlos Carvalhal.

Dywedodd: “Roedd y gêm honno braidd yn rhyfedd oherwydd fe ildiodd y tîm ddwy neu dair gôl gan wneud yr un camgymeriadau ag yr oedden nhw’n eu gwneud cyn hynny.

“Hyd yn oed pan wnes i gyrraedd, roedden nhw’n dal i wneud yr un camgymeriadau ond maen nhw wedi newid erbyn hyn ac yn gwneud yn well o lawer ar hyn o bryd. Allwn ni ddim ailadrodd y camgymeriadau hynny.”

Lerpwl yn barod i ymosod

Ychwanegodd fod rhaid i’r tîm ddysgu o’r camgymeriadau yn Anfield wrth iddyn nhw baratoi i wynebu llinell flaen Lerpwl sydd bellach heb Philippe Coutinho ond sy’n cynnwys Roberto Firmino, Mohamed Salah a Sadio Mane.

Mae’r Cochion yn ddiguro mewn 14 o gemau yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, gan ennill eu pedair gêm ddiwethaf a sgorio 85 o goliau ym mhob cystadleuaeth. Maen nhw wedi sgorio 29 gôl oddi cartref.

Mae Roberto Firmino wedi sgorio pum gôl yn ei dair gêm ddiwethaf yn erbyn Abertawe, a Mo Salah wedi sgorio 24 o goliau yn ei 30 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn.

“Os cofiwch chi’r gôl gyntaf, roedden nhw’n trosglwyddo’r bêl wrth symud rhwng yr ymosod a chanol y cae. Roedd yr ail yn bêl i mewn i ganol y cae eto. Ar y cyfan, roedd y tîm yn drefnus ond fe wnaeth y ddwy gôl ladd y gêm. Ar ôl hynny, roedd hi’n anodd brwydro i aros yn y gêm.

“Roedd hi’n wers a dw i wedi gweld yr holl gemau. Mae pethau mae’n rhaid i ni eu dysgu er mwyn osgoi bod mewn trafferthion unwaith eto nos Lun. Galla i sicrhau y byddwn ni’n rhoi ateb da nos Lun.”

‘Dim amheuon’

Er iddo wylio’r gêm o ystafell lletygarwch cyfarwyddwyr Abertawe yn Anfield, mae Carlos Carvalhal yn mynnu ei fod yn dal yn awyddus i ddod i’r Elyrch.

“Ro’n i’n teimlo’r hyder a’r ddeinameg yn newid gyda mwy o drefn ac weithiau, mae’r chwaraewyr yn rhoi 20 neu 30% ychwanegol.

“Mae’r ddeinameg wedi newid ac ry’n ni wedi gwella.”

Y timau

Mae Mo Salah wedi gwella o salwch i gymryd ei le ymhlith blaenwyr Lerpwl, ond mae amheuon am y capten Jordan Henderson yng nghanol y cae.

Mae disgwyl i Virgil van Dijk gael ei gynnwys yng nghanol yr amddiffyn am y tro cyntaf yn yr Uwch Gynghrair, ar ôl symud o Southampton am £75 miliwn.

O safbwynt yr Elyrch, mae’r cefnwr de Kyle Naughton ar gael unwaith eto ar ôl cwblhau gwaharddiad, tra bod yr amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn wedi gwella o anaf i linyn y gâr.

Mae amheuon o hyd am ffitrwydd yr ymosodwr Tammy Abraham yn dilyn anaf i’w stumog.

Gemau’r gorffennol – hanes o blaid Lerpwl

O edrych ar y llyfrau hanes, mae’r ystadegau o blaid Lerpwl, sydd wedi ennill saith allan o’r deg gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm. Ond mae dwy fuddugoliaeth yr Elyrch wedi dod yn y pedwar cyfarfod diwethaf.

Mae’r Elyrch wedi ildio 27 gôl mewn 13 o gemau yn erbyn Lerpwl – ond dim ond chwech yn Stadiwm Liberty.

I danlinellu trafferthion Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf, fe fu gan yr Elyrch bum rheolwr gwahanol ers y tro diwethaf i Lerpwl deithio i Gymru ym mis Hydref 2016 – Bob Bradley, Alan Curtis (dros dro), Paul Clement, Leon Britton (dros dro) a Carlos Carvalhal.

Er bod sefyllfa’r Elyrch wedi gwella rywfaint erbyn hyn, maen nhw wedi cael un fuddugoliaeth yn unig yn eu saith gêm ddiwethaf, gan golli pedair ohonyn nhw a chadw un llechen lan mewn deg gêm, gan ildio 20 gôl. Chwe gôl yn unig maen nhw wedi’u sgorio gartref – llai nag unrhyw dîm arall yn yr Uwch Gynghrair.

Ac mae hanes hefyd yn dangos nad yw’r Elyrch yn hoffi chwarae ar nos Lun – maen nhw wedi colli’r tair gêm ddiwethaf ar nos Lun yn y gynghrair, gan ildio o leiaf dair gôl ym mhob un.