Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi dweud bod gêm ei dîm yn erbyn Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr yn Stadiwm Liberty nos Lun yn frwydr “Dafydd yn erbyn Goliath”.

Ond mae’n mynnu bod syrpreis yn bosib, wrth i’r Elyrch geisio codi oddi ar waelod y tabl drwy guro’r tîm sy’n ddi-guro mewn 18 o gemau yn y gynghrair.

Fe fydd yr Elyrch yn ceisio manteisio ar ychydig wendidau’r ymwelwyr ar ôl astudio deunydd fideo o gêm Lerpwl yn erbyn Manchester City, gêm enillodd Lerpwl o 4-3.

Ond fe ddaw’r gêm ychydig wythnosau’n unig ar ôl i’r Elyrch gael crasfa o 5-0 yn Anfield – y gêm olaf cyn i’r rheolwr o Bortiwgal gael ei benodi’n swyddogol.

Dywedodd Carlos Carvalhal: “Dafydd yn erbyn Goliath yw hyn, ond mae syrpreis yn gallu digwydd a byddwn ni’n barod i roi syrpreis nos Lun.

“Mae ganddyn nhw gryfderau, ond mae gan dîm sy’n ildio tair gôl wendidau hefyd.

“Dyw hwn ddim yn dîm sy’n ennill o 2-0, 3-0 na 4-0, felly dyna sut dw i’n edrych ar y gêm. Os yw tîm yn sgorio pedair, gadewch i ni weld sut maen nhw’n gwneud hynny a pha ddeinameg sydd ganddyn nhw. Sut allwn ni eu hatal nhw pan fo’r bêl ganddyn nhw?

“Mae gan dimau gorau’r byd ychydig iawn o wendidau, ond mae’r gwendidau hynny ganddyn nhw. Felly gadewch i ni geisio’u hecsbloetio nhw a chuddio’r cryfderau sydd ganddyn nhw.”

‘Llawer gwell’

Yn ôl Carlos Carvalhal, mae’r Elyrch “lawer gwell” nag yr oedden nhw pan gollon nhw o 5-0 yn Anfield.

“Hyd yn oed pan gyrhaeddais i, roedden nhw’n dal i wneud yr un camgymeriadau, ond maen nhw wedi newid bellach ac maen nhw’n llawer gwell ar hyn o bryd.

“Ar y cyfan, roedd y tîm yn drefnus, ond fe laddodd y ddwy gôl y gêm ac ar ôl hynny, roedd hi’n anodd iawn brwydro.”

Mae Abertawe chwe phwynt i ffwrdd o’r safleoedd diogel erbyn hyn, ond dim ond unwaith mewn pum gêm maen nhw wedi colli o dan reolaeth Carlos Carvalhal.

Hyderus

Ac mae’n hyderus y gall ei dîm osgoi disgyn o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.

“Mae’r ddeinameg wedi newid ac ry’n ni wedi gwella. Weithiau mae’r chwaraewyr yn ymroi ryw 20 neu 30% yn fwy.

“Mae’r chwaraewyr yn fwy hyderus a fwy trefnus erbyn hyn.”

Ond fe ddywedodd fod rhaid bod yn “realistig” am sefyllfa’r tîm ar hyn o bryd.

“Mae angen pwyntiau arnon ni a bydd rhaid i ni weld a allwn ni ennill digon er mwyn aros yn yr Uwch Gynghrair.”