Sheffield Wednesday 0–0 Caerdydd                                         

Mae Caerdydd yn aros yn drydydd yn y Bencampwriaeth yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Seffield Wednesday yn Hillsborough nos Sadwrn.

Yr ymwelwyr o dde Cymru a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond heb gynnig llawer o flaen gôl.

Roedd y Tylluanod yn well wedi’r egwyl a chawsant sawl cyfle da i gipio’r tri phwynt.

Gwastraffodd Lucas Joao gyfle da i Wednesday toc cyn yr awr yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gan Gaerdydd.

Cafodd yr un chwaraewr gyfle da ychydig funudau’n ddiweddarach hefyd ond peniodd yn syth at Neil Etheridge yn y gôl.

Bu rhaid i’r ddau dîm fodloni ar bwynt yr un yn y diwedd, canlyniad sydd yn cadw Caerdydd yn drydydd yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Sheffield Wednesday

Tîm: Wildsmith, Ferrao Venancio, Pudil, Thorniley, Palmer, Wallace (Boyd 81’), Jones, Reach, Fox, Rhodes (Matias 72’), Lucas Joao (Nuhiu 81’)

Cerdyn Melyn: Wallace 77’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Richards, Grujic (Paterson 78’), Ralls, Bennett, Wildschut (Mendez-Laing 71’), Hoilett (Harris 83’), Zohore

Cardiau Melyn: Grujic 8’, Bamba 40’, Richards 90+2’

.

Torf: 23,277