Met Caerdydd 0–1 Y Seintiau Newydd                                     

Roedd hi’n bell o fod yn gêm i’w chofio ar Goedlan y Parc, Aberystwyth, nos Sadwrn ond fe wnaeth y Seintiau Newydd ddigon i drechu Met Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.

Roedd gôl ail hanner Jamie Mullan yn ddigon i’r deiliaid wrth iddynt godi Cwpan y Cynghrair am y pedwerydd tro yn olynyol.

Y Seintiau Newydd a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond amddiffynnodd Met yn ddigon cadarn gan atal y deiliaid rhag creu unrhyw gyfleoedd clir.

Ac fe lwyddodd y myfyrwyr i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd yn y pen arall hefyd ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu gan fod Dan Spencer yn camsefyll, di sgôr ar yr egwyl.

Parhau i reoli a wnaeth y Seintiau yn yr ail hanner a methodd Aeron Edwards gyfle euraidd i roi ei dîm ar y blaen, yn methu gôl agored o ddwy lath wedi gwaith da Simon Spender ar y  dde.

Roedd Spender a Mullan yn cael dipyn o hwyl i lawr y dde i’r Seintiau a doedd fawr o syndod mai o’r ochr honny y daeth y gôl toc wedi’r awr wrth i Mullan danio ergyd i do’r rhwyd o ongl dynn wedi gwaith creu crefftus Alex Darlington.

Bu bron i Darlington ei hun ddyblu’r fantais ond tarodd y postyn gyda’i foli yn dilyn gwaith da Ryan Brobbel.

Ond roedd un gôl yn ddigon yn y diwedd wrth i’r Seintiau ennill y gêm a chodi Cwpan y Cynghrair am y bedwaredd blwyddyn yn olynol.

.

Met Caerdydd

Tîm: Fuller, Rees, McCarthy, Woolridge, Eliot Evans, Lam (Owen 27’), Spencer (Hope 75’), Edwards, Barnett (Howell 67’), Will Evans

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Rawlinson, Routledge, Brobbel, Hudson, Mullan, Holland, Darlington (Ebbe 78’), Edwards

Gôl: Mullan 64’

Cardiau Melyn: Spender 10’, Routledge 76’

.

Torf: 906