Hartlepool 0–2 Wrecsam                                                                

Sgoriodd Scott Quigley ddwy gôl yn ei gêm gyntaf i Wrecsam wrth i’r Dreigiau drechu Hartlepool ar Barc Victoria yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Ymunodd cyn chwaraewr y Seintiau Newydd ar fenthyg o Blackpool yn gynharach yr wythnos hon ac fe gafodd y blaenwr y dechrau perffaith wrth i’w goliau ennill y gêm i’w glwb newydd.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Quigley yr ymwelwyro ogledd Cymru ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi rhediad cryf nodweddiadol.

Dyblodd y fantais gyda gôl debyg ddeunaw munud o’r diwedd ac roedd y tri phwynt yn ddiogel.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Dreigiau yn bedwerydd yn y tabl, bedwar pwynt yn unig y tu ôl i Macclesfield ar y brig wedi iddynt hwy gael cweir gan Fylde, diolch yn rhannol i gyn chwaraewr arall y Seintiau Newydd, Sam Finley.

.

Hartlepool

Tîm: Loach, Magnay, Donnelly, Laing, Adams, Featherstone (Adeloye 81’), Woods, Deverdics, Hawkins, Cassidy, Rodney

Cardiau Melyn: Deverdics 7’, Hawkes 14’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Pearson, Roberts, Rutherford, Kelly, Wedgbury, Boden, Holroyd, Quigley (Wright 77’), Boden (Hust 89’)

Goliau: Quigley 54’, 72’

.

Torf: 6,833