Casnewydd 2–1 Crawley                                                                 

Dringodd Casnewydd i safleoedd gemau ail gyfle’r Ail Adran gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Crawley ar Rodney Parade nos Wener.

Sgoriodd Padraig Amond a Mickey Demetriou i’r tîm cartref yn hwyr yn yr hanner cyntaf ac roedd hynny’n ddigon er i’r ymwelwyr dynnu un yn ôl wedi’r egwyl.

Roedd Amond eisoes wedi taro’r trawst unwaith cyn iddo benio’r Alltudion ar y blaen o groesiad Demetriou bum munud cyn yr egwyl.

Dyblodd Demetriou’r fantais o’r smotyn bedwar munud yn ddiweddarach yn dilyn trosedd ar Josh Sheehan yn y cwrt cosbi.

Roedd y fantais wedi’i haneru dri munud wedi’r egwyl diolch i Jimmy Smith ond fe ddaliodd Casnewydd eu gafael wedi hynny i sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r fuddugoliaeth yn eu codi i’r pumed safle yn nhabl yr Ail Adran ond gall hyd at bedwar tîm ddychwelyd drostynt ddydd Sadwrn.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, White, Demetriou, Butler, Sheehan (Reid 70’), Bennett, Tozer, Wilmott, Amond (McCoulsky 76’), Nouble (Hayes 85’)

Gôl: Amond 40’, Demetriou [c.o.s.] 44’

Cerdyn Melyn: Pipe 72’

.

Crawley

Tîm: Morris, Lelan, McNerney (Tajbakhsh 45’), Connolly, Young (Camara 83’), Smith, Yorwerth, Evina, Sanoh (Verheydt 51’), Roberts, Boldewijn

Gôl: Smith 48’

Cerdyn Melyn: Connolly 90’

.

Torf: 5,741