Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock yn edrych ymlaen at “wobr fawr” Caerdydd, wrth iddyn nhw groesawu “tîm gorau’r byd”, Manchester City i Stadiwm Dinas Caerdydd ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Curodd yr Adar Gleision Mansfield o 4-1 ar yr ail gynnig yn y drydedd rownd nos Fawrth, wrth i Junior Hoilett rwydo ddwywaith, ac roedd gôl yr un i Bruno Manga ac Anthony Pilkington.

Daeth gôl Danny Rose yn yr hanner cyntaf i’w gwneud hi’n 1-1 ar yr hanner, ac roedd rheolwr Man City, Pep Guardiola yn Field Mill yn gwylio’r gêm.

Yn ôl Neil Warnock, “Nhw, fwy na thebyg, yw’r tîm gorau yn y byd ar hyn o bryd, mae’n wych, a dw i’n credu bod y cefnogwyr yn haeddu hynny gan ein bod ni wedi gwneud tipyn o ymdrech y tymor hwn.

“Mae’n wobr fawr. Mae’n gêm wych nawr oherwydd allwn ni ddim colli beth bynnag yw’r canlyniad, ac mae’n fonws mawr i ni.

“A bod yn hollol onest, pe bai’r gemau wedi bod yn wahanol, bydden ni fwy na thebyg wedi cael ein curo, ond fe wnes i benderfynu enwi’r tîm cyntaf bron iawn ac fe gawson ni ein gwobr.”

Cerdyn coch?

Ond roedd rheolwr Mansfield, Steve Evans, yn grac am nad oedd Junior Hoilett wedi gweld cerdyn coch am dacl flêr ar Alex McDonald yn yr hanner cyntaf, cyn sgorio’r ddwy gôl.

Cerdyn melyn yn unig a gafodd, ac fe gafodd y dyfarnwr Geoff Eltringham ei feirniadu.

“Pam na chafodd e gerdyn coch, mae hynny y tu hwnt i fi. Mae e wedi cael siocar heno. Os nad yw hynny’n gerdyn coch, dw i’n rhoi’r gorau i’r gêm.”

Ond mae’n dweud ei fod yn “dymuno’n dda i Gaerdydd” er mai Mansfield oedd “y tîm gorau yn yr hanner cyntaf” cyn y digwyddiad dadleuol.