Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi mai Ryan Giggs fydd rheolwr newydd Cymru.

Mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghastell Hensol ym Mro Morgannwa, fe gafodd ei gyhoeddi’n swyddogol mai’r cyn-chwaraewr fydd yn olynu Chris Coleman yn y swydd.

Mae hyn yn golygu mai Ryan Giggs fydd yn arwain tîm Cymru yn ymgyrchoedd rhagbrofol Ewro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

“Anrhydedd”

“Rwy’n eithriadol o falch o gael yr anrhydedd o reoli’r Tîm Cenedlaethol.  Mae’r her o Gynghrair y Cenhedloedd a chyrraedd UEFA EURO 2020 yn un cyffrous,” meddai Ryan Giggs.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r chwaraewyr wrth i ni baratoi tuag at y gemau allweddol hynny’n hwyrach ymlaen eleni.”

Bydd gêm gyntaf Ryan Giggs yn rheolwr yn erbyn Tsieina ar Fawrth 22 fel rhan o Gwpan Tsiena 2018.

“Hollti barn”

Enillodd Ryan Giggs 64 o gapiau dros Gymru, ac fe dreuliodd gyfnod yn rheolwr dros dro ar Manchester United yn 2013-14.

Ond yn ôl Phil Stead, colofnydd pêl-droed golwg, fe all y penodiad newydd hwn “hollti barn” y cefnogwyr, wrth i rai amau ffyddlondeb Ryan Giggs i Gymru pan oedd yn chwaraewr proffesiynol.

“Mae ya deimlad wedi bod ymysg y cefnogwyr nad oed Ryan Giggs wedi comitio’n llawn i’r tîm cenedlaethol oherwydd ei sefyllfa gyda Man United,” meddai wrth golwg360, “a’r teimlad oedd ei fod o’n rhoi Manchester United o flaen Cymru.

“Ond os ydych chi’n siarad â’r bobol oedd wedi chwarae yn y tîm efo fo, maen nhw’n bendant iawn fod Ryan Giggs yn gefnogol iawn. Felly gawn ni weld rŵan, a gobeithio y bydd o’n ddigon llwyddiannus.”

“Rhowch gyfle iddo”

Yn ôl y darlledwr Dylan Ebenezer wedyn, mae parch gan y chwaraewyr yn bwysicach na barn y cefnogwyr.

“Yn y bôn, os ydyn ni ishe Cymro, dw i’n meddwl ei fod e’n ddewis da,” meddai.

“Dw i’n gwybod bod dim llawer yn ei hoffi e, ond mae’r hyn mae e wedi cyflawni gyda Manchester United yn golygu y bydd y chwaraewyr yn ei barchu – a dyna’r rhan fwyaf o’r gamp, dw i’n meddwl.

“S’dim ots beth mae’r cefnogwyr yn meddwl; os yw’r chwaraewyr yn ei barchu e, ac yn fodlon chwarae drosto fe, yna fe fydd popeth yn iawn.

“Dw i’n gwybod nad yw’r cefnogwyr yn hapus, ond rhowch gyfle iddo dw i’n credu – dyna fy neges.”

Y gred ydi fod Osian Roberts, Craig Bellamy a Mark Bowen hefyd wedi cael eu cyfweld ar gyfer y swydd.

Hyd yn hyn, does dim cadarnhad am ddyfodol is-reolwr y tîm Osian Roberts.