Mae lle i gredu mai Ryan Giggs fydd rheolwr nesaf tîm pêl-droed Cymru.

Bydd y rheolwr newydd yn cael ei gyflwyno i’r wasg yng Nghastell Hensol ym Mro Morgannwg brynhawn fory (dydd Llun, Ionawr 15) am 2 o’r gloch.

Daw’r adroddiadau ar y diwrnod cyn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru’n lansio dolen Twitter newydd @Cymru, lle bydd enw’r rheolwr newydd yn cael ei gyhoeddi’n ffurfiol.

Y gred yw y bydd Ryan Giggs yn arwain y tîm ar gyfer ymgyrchoedd rhagbrofol Ewro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Ymddiswyddodd Chris Coleman fis diwethaf cyn cael ei benodi’n rheolwr ar Sunderland yn y Bencampwriaeth.

Mae lle i gredu bod Osian Roberts, Craig Bellamy a Mark Bowen wedi cael eu cyfweld ar gyfer y swydd hefyd.

Ryan Giggs

Enillodd Ryan Giggs 67 o gapiau dros Gymru, ac fe dreuliodd gyfnod yn rheolwr dros dro ar Man U yn 2013-14.

Ond does ganddo fe ddim profiad fel arall o fod yn rheolwr, ac mae ei benodiad yn debygol o hollti barn cefnogwyr, gyda rhai yn ei feirniadu gan mai prin oedd y gemau cyfeillgar y chwaraeodd e ynddyn nhw yn ystod ei yrfa fel chwaraewr rhyngwladol.

Mae lle i gredu iddo gael ei gyfweld ar gyfer swydd Abertawe cyn i’r Americanwr Bob Bradley gael ei benodi yn 2016.