Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi galw am gyflwyno dyfarnwyr fideo ar ôl i benderfyniad dadleuol fynd yn erbyn ei dîm yn ystod y gêm gyfartal 1-1 yn Newcastle brynhawn dydd Sadwrn.

Yn ôl y rheolwr o Bortiwgal, fe fyddai ei dîm wedi cael cic o’r smotyn ac fe fyddai Mohamed Diame wedi cael ei anfon o’r cae “o fewn deg eiliad” pe bai dyfarnwr fideo wedi asesu achos o lawio’r bêl yn y cwrt cosbi.

Roedd yr Elyrch yn honni bod ergyd Mike van der Hoorn wedi cael ei gwyro oddi ar y gôl gan fraich Diame yn ystod yr hanner cyntaf.

‘Deg eiliad’

Dywedodd Carlos Carvalhal: “Alla i ddim dweud ei bod yn gic o’r smotyn oherwydd lle’r o’n i. Rhaid i fi fod yn onest, welais i mohoni – fe ddywedais i wrth y dyfarnwr nad o’n i wedi ei gweld – ond gyda’r dechnoleg sydd gennym ar hyn o bryd, ar ôl munud fe ddywedodd fy is-reolwr ei bod yn gic o’r smotyn ac yn gerdyn coch.

“Dw i’n sicr y byddai wedi bod yn gerdyn coch a chic o’r smotyn, yn hollol sicr.

“O fewn deg eiliad, fe fyddai’r dyfarnwr fideo yn cyfleu neges yn dweud, “Stopiwch, cic o’r smotyn a cherdyn coch’. Dw i’n hollol sicr o hynny.”

Aeth yr Elyrch ar y blaen drwy Jordan Ayew ar ôl 61 munud, cyn i Joselu unioni’r sgôr saith munud yn ddiweddarach.

Dywedodd Carlos Carvalhal fod ei chwaraewyr “wedi’u hypsetio” yn dilyn y canlyniad.