Derwyddon Cefn 0–0 Llandudno                                                 

Sicrhaodd Derwyddon Cefn eu lle yn chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru ar draul Llandudno gyda gêm gyfartal yn eu herbyn gartref ar y Graig nos Sadwrn.

Dechreuodd y Derwyddon y gêm yn chweched, dri phwynt o flaen Llandudno yn y seithfed safle, ac felly y mae pethau’n aros wrth i’r gynghrair hollti yn dilyn gêm ddi sgôr.

Hanner Cyntaf

Roedd Llandudno angen buddugoliaeth i gyrraedd y chwech uchaf, gyda gêm gyfartal yn ddigon i’r Drewyddon, ond y tîm cartref a ddechreuodd orau serch hynny.

Ond er i’r Derwyddon reoli rhannau helaeth o’r hanner cyntaf, Llandudno a gafodd y cyfleoedd gorau, a digon ohonynt.

Daeth dau gyfle euraidd i Marc Evans o fewn eiliadau i’w gilydd wedi 26 munud, rhoddodd gic hosan i’r cyntaf cyn anelu’r ail yn syth at Michael Jones yn y gôl.

Tarodd Danny Hughes y trawst ddau funud yn ddiweddarach yn dilyn gwaith da gan Toby Jones ar y chwith cyn i Mike Williams benio heibio’r postyn o dair llath wedi camgymeriad gan Jones yn y gôl.

Lewis Bukley a ddaeth agosaf yn y pen arall ond taro’r postyn a wnaeth ei ergyd isel o bum llath ar hugain wrth iddi aros yn ddi sgôr tan yr egwyl.

Ail Hanner

Rhoddwyd cnoc fawr i obeithion Llandudno ym mhum munud cyntaf yr ail hanner wrth i’w capten, Tom Dix, dderbyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch yn dilyn tacl wael ar Alec Midimu.

Dilyn patrwm tebyg i’r hanner cyntaf a wnaeth yr ail wedi hynny gyda’r Derwyddon yn rheoli’r tir a’r meddiant heb greu llawer o gyfleoedd clir.

Ond y gwir amdani oedd, roedd hynny’n siwtio’r Derwyddon yn iawn ac fe wnaeth tîm Huw Griffiths ddigon i ddiogelu’r pwynt, pwynt sydd yn sicrhau eu lle yn y chwech uchaf wrth i’r gynghrair hollti.

Mae Llandudno ar y llaw arall yn aros yn seithfed a bydd yn rhaid iddynt hwy frwydro yn y chwech isaf i geisio sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

.

Derwyddon Cefn

Tîm: Jones, Arsan, Peate, Mudimu, Pritchard, Simpson, Hajdari, Taylor (Ruane 81’), Piskorski (Cartwright 84’), Buckley, Ashton

Cardiau Melyn: Buckley 65’, Pritchard 67’

.

Lladnundo

Tîm: Roberts, Taylor (Hart 72’), Joyce, Mike Williams (Carey 90’), Shaw, Dix, Hughes, Baynes, Jones, Marc Williams, Evans (Thomas 72’)

Cerdyn Melyn: Dix 44’ 50’

Cerdyn Coch: Dix 50’

.

Torf: 539