Grimsby 1–2 Casnewydd                                                                 

Arhosodd Casnewydd o fewn cyrraedd safleoedd gemau ail gyfle’r Ail Adran gyda buddugoliaeth dros Grimsby ar Barc Blundell brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Wilmott a Nouble yr Alltudion ddwy gôl ar y blaen cyn i Matt dynnu un yn ôl i’r tîm cartref a chael ei anfon oddi ar y cae.

Deunaw munud a oedd ar y cloc pan roddodd Robbie Wilmott y Cymry ar y blaen gydag ergyd wych o ochr y cwrt cosbi ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Dyblwyd y fantais ddeg munud wedi’r egwyl pan wyrodd cynnig Frank Nouble i gefn y rhwyd.

Rhoddodd peniad Jamille Matt lygedyn o obaith i Grimsby ddeg munud o’r diwedd ond diflannodd hwnnw pan gafodd yr un chwaraewr ei anfon oddi ar y cae naw munud yn ddiweddarach.

Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd i’r degfed safle yn y tabl, ddau bwynt yn unig i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle.

.

Grimsby

Tîm: Kean, Mills, Clarke, Osborne, Davies (Jones 90+1’), Dembele, Summerfield, Berrett, Woolford (Jaiyesimi 67’), Vernon (Matt 67’), Vernam

Gôl: Matt 80’

Cerdyn Melyn: Clarke 34’

Cerdyn Coch: Matt 89’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Demetriou, White, Butler, Dolan (Toser 79’), Labadie (Reid 84’), Bennett, Nouble, Amond, Wilmott (McCoulsky 85’)

Goliau: Wilmott 19’, Nouble 56’

Cardiau Melyn: Labadie 52’, Nouble 69’, White 88’

.

Torf: 3,397