Mae rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, Mike Flynn yn breuddwydio am gael herio Lerpwl ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Mae’r Alltudion wedi mynd drwodd ar ôl curo deg dyn Leeds o’r Bencampwriaeth o 2-1 ar Rodney Parade heddiw.

Dywedodd Mike Flynn: “Maen nhw’n griw rhagorol ac yn haeddu’r holl glod.

“A finnau’n ffan o Lerpwl, byddwn i wrth fy modd pe baen ni’n cael chwarae yn Anfield yn y rownd nesaf.

“Ond mewn gwirionedd, beth bynnag sy’n gwneud y mwyaf o arian i’r clwb.

“Gobeithio y gallwn ni gael un o’r clybiau mawr oddi cartref – byddai’r arian yn enfawr i’r clwb hwn.”