Met Caerdydd 1–1 Aberystwyth                                                  

Cyfartal a oedd hi wrth i Met Caerdydd groesawu Aberystwyth i Gampws Cyncoed yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.

Rhoddodd cic rydd Eliot Evans y myfyrwyr ar y blaen toc cyn yr egwyl cyn i John McKenna achub pwynt haeddiannol i’r ymwelwyr ar yr awr.

Cafwyd dechrau tanllyd i’r gêm ac roedd chwaraewr newydd Aber, Tom Owens, yn ffodus braidd mai dim ond cerdyn melyn a dderbyniodd am dacl nerthol ar Kyle McCarthy.

Yr ymwelwyr o’r canolbarth a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf wedi hynny ond roedd Malcolm Melvin a John Owen yn wastraffus gyda chyfleoedd da yn y cwrt cosbi.

Y myfyrwyr yn hytrach a agorodd y sgorio, a hynny yn erbyn llif y chwarae ddau funud cyn yr egwyl wrth I Evans grymanu cic rydd i’r gornel uchaf o ugain llath.

Aberystwyth a oedd y tîm gorau ar ddechrau’r ail hanner hefyd a bu ond y dim iddynt unioni’r sgôr wedi deg munud. Tarodd Owens y trawst wedi sodliad gwych Owen i’w lwybr a gwyrodd y bêl yn ôl oddi ar y pren, yn erbyn pen glin Luke Borelli ac heibio’r postyn.

Fu dim rhaid i’r ymwelwyr aros yn hir am gôl haeddiannol serch hynny. Ychydig llai nag awr a oedd ar y cloc pan grymanodd Ashley Young gic rydd lydan i gyfeiriad McKenna yn y cwrt cosbi, ac er nad oedd hi’n glir a gafodd yr amddiffynnwr canol gyffyrddiad iddi ai peidio, doedd Aber yn poeni dim gan i’r bêl gyrraedd y rhwyd.

Roedd hanner cyfleoedd yn y ddau ben wedi hynny ond bodloni ar gôl yr un a phwynt yr un a wnaeth y ddau dîm yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw Met yn bumed ac Aber yn ddegfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Met Caerdydd

Tîm: Fuller, Rees, McCarthy, Bowler, Evans, Baker, Lam, Spencer (Thomas 45+3’), Edwards, Barnett, James (Thomas 45+3’)

Gôl: Evans 44’

.

Aberystwyth

Tîm: Mullock, Walker, Spittle, Wollacott (Mkenna 45+1’), Owens, Melvin, Owen, Borrelli (Kellaway 77’), Wade (Hobson 90+2’), Jones, Young

Gôl: McKenna 59’

Cerdyn Melyn: Owens 7’

.

Torf: 214