Wolves 0–0 Abertawe                                                                      

Bydd rhaid i Wolves ac Abertawe ail chwarae eu gêm drydedd rownd Cwpan FA wedi iddi orffen yn ddi sgôr rhwng y ddau dîm ym Molineux brynhawn Sadwrn.

Gorffennodd y ddau dîm y gêm gyda deg dyn yn dilyn cardiau coch i Ruben Vinagre a Leroy Fer.

Cafodd amddiffynnwr Wolves, Vinagre, ei anfon oddi ar y cae bum munud cyn yr egwyl am dacl flêr ar Nathan Dyer cyn i Fer gael ei anfon am gawod gynnar hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Y gŵr rhwng y psyt i’r Elyrch, Kristoffer Nordfeldt, a oedd y prysuraf o’r ddau gôl-geidwad ond Martin Olsson ac Abertawe a ddaeth agosaf at sgorio pan darodd ei gic rydd yn erbyn y trawst.

Ond bu rhaid i’r ddau dîm fodloni ar gêm gyfartal yn y diwedd a bydd rhaid ail chwarae ar y Liberty mewn wythnos a hanner.

.

Wolves

Tîm: Norris, Bennett, Coady, Hause, Doherty, Gibbs-White (Douglas 45+1’), N’Diaye, Vinagre Costa, Bonatini (Mir Vicente 77’), Enobakhare (Cavaleiro 65’)

Cerdyn Coch: Vinagre 40’

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, Fernandez (Ayew 56’), van der Hoorn, Bartley, Dyer, Fel Renato Sanches (Carroll 34’), Olsson, Routledge, Bony (Mesa 75’)

Cerdyn Melyn: Bartley 59’, Bony 72’

Cerdyn Coch: Fer 67’

.

Torf: 22,976