Mae perchnogion Americanaidd Clwb Pêl-droed Abertawe, Jason Levien a Steve Kaplan wedi penderfynu peidio â chynyddu eu cyfrannau yn y clwb am y tro.

Maen nhw, fel rhan o gonsortiwm, yn berchen ar 68% o’r cyfrannau ar hyn o bryd, ond maen nhw’n awyddus i brynu cyfrannau Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, sy’n werth 21.1%.

Ond mae’r trafodaethau wedi dod i ben am y tro wrth i’r clwb frwydro i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr am dymor arall.

Datganiad

Mewn datganiad, dywedodd yr Americaniaid mai diben trafodaethau blaenorol gyda’r Ymddiriedolaeth oedd “adeiladu perthynas gryfach a mwy dichonadwy”.

Dywedodd y ddau y byddai’r trafodaethau newydd yn cynnig “amodau mwy ffafriol” na’r rhai a gafodd eu derbyn gan yr Ymddiriedolaeth ym mis Gorffennaf 2016.

Ond roedden nhw’n barod i gydnabod “pryderon” aelodau’r Ymddiriedolaeth ynghylch y cynnig, gan ddweud nad ydyn nhw am i’r mater “fynd yn destun gelyniaeth rhyngom”.

“Ni ddylem ni na’r Ymddiriedolaeth ganiatáu i unrhyw fater arall fod yn gysgod tros frwydr y clwb i gynnal ei statws yn yr Uwch Gynghrair na’r ffenest drosglwyddo sydd ar ddod.”

Cefndir

Mae’r Ymddiriedolaeth yn mynnu ers tro nad oedden nhw wedi cael gwybod yn 2016 fod yr Americaniaid yn bwriadu prynu’r cyfrannau.

Mae’r Americaniaid hefyd wedi cael eu beirniadu am werthu rhai o fawrion y clwb, gan gynnwys Gylfi Sigurdsson i Everton, Fernando Llorente i Spurs a Jack Cork i Burnley, ac am fethu ag arwyddo chwaraewyr digon da yn eu lle.

Ymateb

Wrth ymateb i ddatganiad yr Americaniaid, dywedodd yr Ymddiriedolaeth fod eu penderfyniad yn achosi “rhagor o oedi” cyn y byddan nhw’n gweithredu ar fandad yr Ymddiriedolaeth i werthu eu cyfrannau.

Ychwanegodd y llefarydd y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal maes o law i drafod y ffordd ymlaen yn sgil yr oedi.

Mae’r Elyrch ar waelod yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, ac fe wnaethon nhw benodi Carlos Carvalhal yn ddiweddar ar ôl diswyddo’r prif hyfforddwr Paul Clement cyn y Nadolig.

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn galw ar i’r cadeirydd Huw Jenkins ymddiswyddo yn sgil sefyllfa’r clwb – roedd wedi gwerthu ei gyfrannau i’r Americaniaid yn 2016.