Casnewydd 2–1 Exeter City                                                            

Cafodd Casnewydd ddechrau da i 2018 gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Exeter City yn yr Ail Adran brynhawn Llun.

Peniodd Padraig Amond y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond chwe munud ar Rodney Parade ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Roedd y sgôr yn gyfartal yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i beniad arall, Jayden Stockley yn sgorio i’r ymwelwyr.

Adferodd Robbie Wilmott fantais yr Alltudion gydag ergyd o bellter hanner ffordd trwy’r ail hanner ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Mae Casnewydd yn aros yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran er gwaethaf y fuddugoliaeth ond tri phwynt yn unig sydd yn eu gwahanu hwy a’r safleoedd ail gyfle.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, Bennett, Demetriou, Pipe, Dolan (Owen-Evans 82’), Labadie, Wilmott, Butler, Amond, Nouble (McCoulsky 90+3’)

Goliau: Amond 6’, Wilmott 66’

Cardiau Melyn: Pipe 63’, Dolan 82’

.

Exeter City

Tîm: Pym, Sweeney, Seaborne (Reid 82’), Archibald-Henville, Woodman, Taylor, Tillson, James (Holmes 72’), Moxey, Stockley (McAlinden 90+1’), Harley

Gôl: Stockley 53’

Cardiau Melyn: James 32’, Tillson 63’

.

Torf: 3,318