Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins wedi dweud wrth y BBC ei fod yn ystyried camu o’r neilltu ar ddiwedd y tymor.

Mae’r Elyrch ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr gyda hanner y tymor yn weddill, ac maen nhw newydd benodi Carlos Carvalhal o Bortiwgal yn rheolwr yn dilyn diswyddo’r prif hyfforddwr Paul Clement cyn y Nadolig.

Ond mae’r cefnogwyr yn anfodlon ynghylch y ffordd y mae’r clwb yn cael ei arwain gan y cadeirydd a’r perchnogion Americanaidd Steve Kaplan a Jason Levien, yn dilyn rhestr hir o reolwyr a phrif hyfforddwyr aflwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn eu plith roedd yr Americanwr Bob Bradley, a gafodd ei ddiswyddo y llynedd ar ôl dim ond 85 o ddiwrnodau ac 11 o gemau wrth y llyw.

Cyfaddefiadau

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Huw Jenkins ei fod e wedi gwneud sawl camgymeriad dros y tymhorau diwethaf, gan gynnwys aros cyhyd cyn diswyddo Paul Clement a pheidio ag ail-benodi Brendan Rodgers y llynedd.

Dywedodd y byddai’r rheolwr newydd yn derbyn yr elw a gafodd ei wneud o werthu Gylfi Sigurdsson dros yr haf er mwyn prynu chwaraewyr newydd ym mis Ionawr, ond mai’r elw yn unig fyddai ar gael iddo. Cafodd y chwaraewr allweddol ei werthu i Everton am £45 miliwn – digwyddiad arall sydd wedi ennyn dicter y cefnogwyr.

Cafodd yr ymosodwr Fernando Llorente hefyd ei werthu i Spurs, a’r chwaraewr canol cae Jack Cork i Burnley.

Mae’r chwaraewyr sydd wedi dod i mewn yn eu lle wedi bod yn aflwyddiannus ar y cyfan, sydd wedi arwain at feirniadaeth o bolisi recriwtio’r clwb.

Ymhlith y digwyddiadau eraill y cyfeiriodd e atyn nhw fel rhai oedd yn destun siom oedd methiant y clwb i ddenu chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen yn ôl i’r Liberty.

Serch hynny, mae’n mynnu nad yw’r perchnogion Americanaidd yn haeddu cael cymaint o feirniadaeth gan y cefnogwyr.

Camu o’r neilltu

Ond wrth drafod ei swydd ei hun, mae Huw Jenkins yn mynnu na fydd y feirniadaeth yn cael dylanwad ar ei benderfyniad ar ddiwedd y tymor.

“Mae gyda fi beth balchder yn yr hyn ry’n ni wedi ei wneud ac os nad ydyn ni’n cyrraedd y lefelau hynny eto, wrth gwrs y bydda i’n teimlo [y dylai ymddiswyddo]. Mae hynny’n ddealladwy, dw i’n meddwl.

 

 

“Mae yna resymau, ond dw i’n credu na fydd llawer o bobol eisiau clywed y rhesymau oherwydd maen nhw am weld gweithredu.

“Dw i ddim yn cytuno’n llwyr gyda nhw ynghylch fy sefyllfa. Ond pe baen ni’n parhau ar y trywydd hwn o ennill ychydig iawn o gemau, yna does gen i ddim amheuaeth mai dyna sut fydd hi.”

Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr

Roedd Huw Jenkins yn un o’r criw gwreiddiol o ymddiriedolwyr oedd wedi prynu’r clwb oddi ar Tony Petty i’w achub pan oedden nhw ar fin disgyn o’r Gynghrair Bêl-droed yn 2001.

Ac ar ôl i’r Americaniaid Steve Kaplan a Jason Levien brynu’r clwb, i bob pwrpas, y llynedd, mae Huw Jenkins yn mynnu nad oedd yr Ymddiriedolaeth wedi’i chadw draw o’r trafodaethau, fel y maen nhw’n ei honni.

 

Ar y pryd, dywedodd yr Ymddiriedolaeth eu bod nhw’n “siomedig” nad oedden nhw wedi cael chwarae rhan yn y broses.

Ond dywedodd Huw Jenkins: “Mae’r ffaith fod pobol yn dweud nad oedden nhw’n gwybod am y gwerthiant yn fy ngwylltio, oherwydd mae hynny’n anghywir.

“Os ydyn nhw’n dweud na chawson nhw ddigon o amser, neu nad oedd pedwar mis yn ddigon, neu fod diffyg eglurder ynghylch y ffordd ymlaen, dw i’n cytuno ond mae yna wahaniaeth.”

Ymateb yr Ymddiriedolaeth

Wrth ymateb i sylwadau Huw Jenkins, mae’r Ymddiriedolaeth yn dweud eu bod nhw’n “siomedig iawn”.

 

 

Ychwanegon nhw fod nifer o’r sylwadau’n “anghywir” o safbwynt yr hyn yr oedd yr Ymddiriedolaeth yn ei wybod am yr Americaniaid cyn iddyn nhw brynu’r clwb.

Ond dywedon nhw y bydden nhw’n ymateb yn fwy llawn maes o law “ar ôl ystyried y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud”.