Caerdydd 0–1 Preston                                                                      

Mae rhediad siomedig diweddar Caerdydd yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn Preston yn Stadiwm y Ddinas nos Wener.

Mae’r Adar Gleision yn aros yn drydydd yn y Bencampwriaeth wedi i gôl hwyr Tom Clarke achosi iddynt golli am y trydydd gêm yn olynol.

Wedi hanner cyntaf braidd yn ddiflas roedd hi’n gêm fwy agored wedi’r egywl gyda’r ddau dîm yn ymosod am yn ail. Bu rhaid aros tan funud olaf y naw deg am unig gôl y gêm serch hynny.

Daeth honno diolch i gapten yr ymwelwyr, Clarke, wedi amddiffyn gwael gan Gaerdydd o gic gornel. Er i Neil Etheridge arbed peniad rhydd Paul Huntington fe fethodd y golwr ac Omar Bogle a chlirio’r bêl o’r cwrt cosbi ac fe beniodd Clarke hi i gefn y rhwyd.

Doedd dim digon o amser ar ôl i Gaerdydd unioni wrth iddynt golli am y trydydd tro mewn wythnos.

Mae tîm Neil Warnock yn aros yn drydydd yn y tabl er gwaethaf y golled ond gall Derby godi drostynt gyda buddugoliaeth dros Ipswich ddydd Sadwrn.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Paterson, Ecuele Manga, Bamba, Peltier, Tomlin (Healey 76’), Ralls, Damour, Feeney (Hoilett 64’), Zohere (Bogle 83’), Mendez-Laing

Cardiau Melyn: Peltier 22’, Paterson 90+4′

.

Preston

Tîm: Maxwell, Clarke, Huntington, Davies, Cunningham (Woods 84’), Gallagher (Harrop 68’), Pearson, Barkhuizen, Browne, Horgan (Robinson 69’), Hugill

Gôl: Clarke 90’

Cardiau Melyn: Barkhuizen 27’, Browne 36’, Pearson 48’, Hugill 90+4′

.

Torf: 17,751