Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi penodi Carlos Carvalhal yn rheolwr newydd.

Fe fydd yn olynu Paul Clement a gafodd ei ddiswyddo ar 20 Rhagfyr wrth i’r clwb fod ar waelod yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.

Ond cafodd Carvalhal yntau ei ddiswyddo gan Sheffield Wednesday ar Noswyl Nadolig, a’r tîm yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.

Ac yntau’n 52 oed, mae’n gyn-reolwr ar dimau Besiktas a Sporting Libson.

Mae wedi’i benodi tan ddiwedd y tymor, ac mae opsiwn i ymestyn ei gytundeb bryd hynny.

Fe fydd e wrth y llyw ar gyfer y gêm yn erbyn Watford ddydd Sadwrn, ac yntau’n gyfrifol am sesiwn hyfforddi am y tro cyntaf y bore yma.

Fe gafodd ei alw gan y clwb i Anfield ar Ddydd San Steffan i wylio’r tîm yn herio Lerpwl, wrth iddyn nhw golli o 5-0.

‘Optimistiaeth o’r newydd’

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins fod modd edrych ymlaen at ail hanner y tymor “gydag optimistiaeth o’r newydd”.

“Roedden ni’n teimlo bod rhaid datrys sefyllfa’r rheolwr cyn gynted â phosib a thra nad yw’r amseru bob amser yn berffaith, gallwn ni edrych ymlaen at ail hanner yr ymgyrch gydag optimistiaeth o’r newydd.”

Llwyddodd Carlos Carvalhal i arwain Sheffield Wednesday i’r gemau ail gyfle ddau dymor yn olynol, ac mae Huw Jenkins yn dweud bod ei “gymeriad a’i bersonoliaeth” yn allweddol ar hyn o bryd, “ar adeg mor dyngedfennol”.

“Mae ganddo fe dipyn o brofiad dros y blynyddoedd, a fydd yn sicrhau bod strwythur a threfn i’r tîm.”

Ychwanegodd y byddai’n “mynd i’r afael â’r her heb ofn”.