Mae’r heddlu wedi cyhuddo chwaraewr Lerpwl, Jon Flanagan, o ymosod.

Yn ol Heddlu Glannau Merswy, mae’r amddiffynnwr 24 oed wedi’i gyhuddo yn dilyn digwyddiad yng nghanol y ddinas ddydd Gwener diwethaf (Rhagfyr 22).

“Fe allwn gadarnhau fod Jonathan Patrick Flanagan, 24, o Cressington wedi’i gyhuddo o ymosod yn dilyn digwyddiad yn Duke Street yng nghanol y ddinas tua 3.20yb ddydd Gwener, Rhagfyr 22,” meddai llefarydd.

“Mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Lerpwl ar Ionawr 2, 2018.”

Mae Jon Flanagan wedi chwarae mwy na 50 o gemau tim cyntaf i Lerpwl ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 18 oed. Fe dreuliodd dymor 2016-17 ar fenthyg yn Burnley, a hynny ar ol 20 mis allan o’r gêm oherwydd anaf.