Caerdydd 2–4 Fulham
Llithrodd Caerdydd i’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth wrth golli yn erbyn Fulham yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Mawrth.
Ildiodd yr Adar Gleision bedair gôl wrth golli am yr eildro mewn pedwar diwrnod ac am y tro cyntaf gartref y tymor hwn.
Peniodd Tim Ream yr ymwelwyr o Lundain ar y blaen wedi deuddeg munud cyn i Floyd Ayite wyro croesiad Ryan Sessegnon i gefn y rhwyd i ddyblu’r fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod.
Tarodd Caerdydd yn ôl yn syth gyda foli wych Kenneth Zohore funud yn ddiweddarach.
Cafodd Sol Bamba a Bruno Ecuele Manga gyfleoedd i unioni wedi hynny ond roedd Fulham yn edrych beryglus wrth wrthymosod.
Arweiniodd un o’r gwrthymosodiadau hynny at gôl i seren ifanc Fulham, Sessegnon, ddeuddeg munud o’r diwedd.
Rhoddodd peniad Callum Paterson lygedyn o obaith i’r Adar Gleision wedi hynny ond adferodd Stefan Johansen ddwy gôl o fantais yr ymwelwyr wedi gwrthymosodiad arall yn yr eiliadau olaf.
Mae’r canlyniad hwn ynghyd â Buddugoliaeth Bristol City yn erbyn Reading yn achosi i Gaerdydd lithro i’r trydydd safle yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Peltier, Ecuele Manga, Bamba, Bennett, Damour (Healey 73’), Bryson, Ralls, Medez-Laing, Zohore, Hoilett (Paterson 73’)
Gôl: Zohore 57’, Paterson 90+2’
Cerdyn Melyn: Ralls 90’
.
Fulham
Tîm: Bettinelli, Fredericks, Kalas, Ream, Odoi, Johansen, McDonald, Cairney, Ojo (Kebano 86’), Ayite (Roche Fonte 77’), Sessegnon (Piazzon 90+1)
Goliau: Ream 12’, Ayite 56’, Sessegnon 78’, Johansen 90+7’
Cardiau Melyn: Ayite 34’, Fredericks 43’, Odoi 82’, Bettinelli 90+2’
.
Torf: 21,662