Bolton 2–0 Caerdydd
Mae Caerdydd bellach saith pwynt y tu ôl i Wolves ar frig y Bencampwriaeth ar ôl colli yn erbyn Bolton yn Stadiwm Macron brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd y tîm cartref ddwy waith yn y chwarter awr olaf wrth i’r Adar Gleision golli am y tro cyntaf mewn saith gêm.
Wedi hanner cyntaf di sgôr bu rhaid aros tan chwarter awr o’r diwedd am y gôl agoriadol, Gary Madine yn sgorio o’r smotyn wedi llawiad Sol Bamba yn y cwrt cosbi.
Roedd Madine yn ei chanol hi eto wrth i Bolton ddyblu eu mantais ddau funud o’r diwedd, yn creu i Josh Vela y tro hwn.
Mae Caerdydd yn aros yn ail er gwaethaf y golled ond mae saith pwynt bellach yn eu gwahanu hwy a Wolves ar frig y tabl.
.
Bolton
Tîm: Alnwick, Little, Wheater, Beevers, Taylor, Pratley, Henry, Ameobi, Vela, Buckley (Noone 60’), Madine (Wilbraham 90+3’)
Goliau: Madine [c.o.s.] 75’, Vela 88’
Cardiau Melyn: Pratley 41’, Henry 61’, Madine 87’
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Peltier, Ecuele Manga, Bamba, Bennett, Halford, Mendez-Laing, Damour (Tomlin 78’ (Feeney 90+4’)), Ralls, Hoilett, Bogle (Zohore 66’)
Cardiau Melyn: Damour 58’ Peltier 77’, Ecuele Manga 78’, Halford 82’
.
Torf: 15,344