Mae rheolwr clwb pêl-droed Abertawe, Paul Clement, yn mynnu y bydd yn “parhau i frwydro” er gwaetha’r sefyllfa anodd mae’n ei hwynebu.

Mae colled 3-1 y clwb yn erbyn Everton brynhawn ddoe (Rhagfyr 18) yn golygu nad yw’r Elyrch ond wedi ennill un o’u 10 gêm ddiwethaf – a’u bod yn aros ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr.

I Paul Clement – sydd wedi gweithio â chlybiau gan gynnwys Chelsea, Real Madrid a Bayern Munich yn y gorffennol – mae ei sefyllfa bresennol yn un anghyfarwydd.

“Mae’n anodd bod yn hyfforddwr i unrhyw dîm, ar unrhyw lefel,” meddai Paul Clement.  “Rydych chi eisiau chwarae’n dda ac ennill pob gêm.

“Wrth weithio fel [Hyfforddwr] Cynorthwyol, roeddwn i’n gyfarwydd a cholli un gêm o bob 10, ac o ennill naw. Nawr, mae pethau wedi mynd i’r gwrthwyneb.

“Dyw e ddim yn brofiad neis ond dw i’n dysgu llawer ohono, ac yn dysgu llawer am fy hun.

“Wna’i barhau i frwydro. Dw i wedi gweithio’n galed i gyrraedd y safle yma a dydw i ddim yn mynd i roi’r gorau. Wna’i ddal ati.”