Everton 3–1 Abertawe                                                                     

Sgoriodd Gylfi Sigurdsson gôl wych yn erbyn ei gyn glwb wrth i Everton guro Abertawe ar Barc Goodison nos Lun.

Mae’r Elyrch yn aros ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli er iddynt fynd ar y blaen ar Lannau Merswy.

Wedi hanner awr cyntaf da, aeth Abertawe yn haeddiannol ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl pan rwydodd Leroy Fer o gic gornel Tom Carroll ar ôl colli ei farciwr yn y cwrt cosbi, Ashley Williams.

Roedd Everton yn gyfartal wrth droi serch hynny diolch i gôl Dominic Calvert-Lewin yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner. Cafodd Aaron Lennon ei lorio yn y cwrt cosbi gan Roque Mesa ac er i Lukasz Fabianski arbed yn dda o gic o’r smotyn Wayne Rooney fe rwydodd Calvert-Lewin ar yr ail gyfle.

Aeth y tîm cartref ar y blaen toc wedi’r awr diolch i rywbeth y mae cefnogwyr Abertawe’n gyfarwydd iawn ag ef, gôl wych gan Sigurdsson. Crymanodd cyn chwaraewr yr Elyrch ergyd wych i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

Aeth y gêm o afael yr ymwelwyr ddeg munud yn ddiweddarach diolch i benderfyniad gwael gan y dyfarnwr. Roedd bagliad Mrtin Olsson ar Jonjoe Kenny y tu allan i’r cwrt cosbi ond pwyntiodd Jonathan Moss at y smotyn, ac ar ôl methu yn yr hanner cyntaf, wnaeth Rooney ddim camgymeriad o ddeuddeg llath y tro hwn.

Doedd dim siâp taro nôl ar yr Elyrch wrth i Everton ddal eu gafael yn gyfforddus ar y fuddugoliaeth a chadw Abertawe ar waelod y tabl.

.

Everton

Tîm: Pickford, Kenny, Holgate, Williams, Mrtina, Gueye, Schneiderlin (Davies 61’), Lennon (Lookman 79’), Rooney (Sandro 89’), Sigurdsson, Calvert-Lewin

Goliau: Calvert-Lewin 45+2’, Sigurdsson 64’, Rooney [c.o.s.] 73’

Cardiau Melyn: Holgate 29’, Kenny 83’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer, Mesa, Carroll (Clucas 81’), Narsingh, Bony (Abraham 5’), Dyer (Ayew 74’)

Gôl: Fer 35’

Cardiau Melyn: Dyer 37’, Fernandez 52’, Fer 84’

.

Torf: 37,580