Fe fydd prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement yn dychwelyd i Barc Goodison heno, i’r fan lle daeth y cyfan i ben iddo yn 2011 pan oedd yn is-reolwr Chelsea.

Ar y cae hwnnw ar ddiwrnod olaf tymor 2010-11 y cafodd y rheolwr Eidalaidd Carlo Ancelotti ei ddiswyddo gan y tîm o Lundain – a dyna’r tro olaf i Paul Clement fod yn y stadiwm.

Ond fe fydd y Sais yn dychwelyd yno heno yn gyfrifol am dîm Abertawe, ond yn gwybod ei fod yntau hefyd dan bwysau erbyn hyn hefyd, a’i dim ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr ar drothwy’r Nadolig.

Wrth gyfeirio at ei ymweliad diwethaf â’r stadiwm, dywedodd Paul Clement: “Roedd yn foment ryfedd a dw i heb fod yn ôl yno ers hynny. Roedden ni’n ei ddisgwyl braidd ar ôl y sgyrsiau roedden ni wedi bod yn eu cael.

“Ond yr hyn oedd wedi fy synnu oedd fod y cyfan wedi digwydd yn ystafell newid y tîm oddi cartref, 30 munud ar ôl i’r gêm ddod i ben.

“Ro’n i a’r chwaraewyr wedi dychwelyd i’r bws ac roedd Carlo [Ancelotti] yn yr ystafell newid gyda’r prif weithredwr.

“Aeth e’n ôl ar y bws a dweud, ‘Ie, dw i wedi cael fy niswyddo’. Aethon ni i’r maes awyr a chael awyren yn ôl i Lundain.

“Roedd y chwaraewyr i gyd yn gwybod erbyn hynny a phan aethon ni’n ôl i Lundain, aethon nhw â fe i glwb. Roedd hi’n noson dda!”

Gyrfa lewyrchus yn Ewrop

 Er i Paul Clement aros gyda Chelsea am ryw fis wedyn, aeth ei yrfa ei hun o nerth i nerth wrth barhau â’i bartneriaeth â’r Eidalwr yn rhai o glybiau mwyaf Ewrop – Paris St Germain, Real Madrid a Bayern Munich.

Ac ar ôl treulio wyth mis yn rheolwr ar Derby, fe ddaeth Paul Clement i Abertawe a llwyddo i achub yr Elyrch o waelodion y tabl ar ôl iddyn nhw ennill dim ond 12 o bwyntiau cyn iddo gyrraedd, a llwyddo i orffen ar 41 o bwyntiau yn y pymthegfed safle.

Brwydr

Fe fydd angen i’r Elyrch ddangos yr un gwytnwch eto eleni ar ôl ennill dim ond 12 o bwyntiau o 17 o gemau.

Ychwanegodd Paul Clement: “Mae mwy o dimau ynghlwm wrth y frwydr yn erbyn y gwymp eleni a allai gael eu tynnu’n ôl i mewn iddi.

“Er nad ydyn ni’n chwarae’n arbennig o dda ac ry’n ni’n dal ynddi, rhaid i ni weld hynny fel rhywbeth positif.”

Wynebu Gylfi ac Ash

 Os yw Paul Clement am osgoi ailadrodd yr hyn ddigwyddodd i Carlo Ancelotti yn 2011, fe fydd rhaid i’w dîm oresgyn dau o’u cyn-chwaraewyr heno – Ashley Williams a Gylfi Sigurdsson.

Mae cefnogwyr yr Elyrch wedi bod o’r farn dros y tymhorau diwethaf mai gwerthu’r ddau chwaraewr allweddol hyn oedd dechrau’r diwedd i’r clwb wrth iddyn nhw fethu â chyrraedd yr uchelfannau eto ers iddyn nhw werthu cyn-gapten Cymru fis Awst y llynedd.

Ac fe ddilynodd Sigurdsson ei gyn-gapten i Lannau Mersi fis Awst eleni am £45 miliwn, ac mae ymosod yr Elyrch wedi bod ar chwâl ers hynny, gan sgorio dim ond naw gôl hyd yn hyn.

Dywedodd Paul Clement: “Byddwn i’n hoffi pe bai Gylfi yma ond dw i ddim yn meddwl faint dw i’n gweld ei eisiau fe a Fernando Llorente [sydd gyda Spurs erbyn hyn].

“Roedd y ddau yn chwaraewyr da oedd gyda ni, ond dw i’n meddwl am y chwaraewyr sydd gyda fi nawr a cheisio gwella’r tîm.”