Caerdydd 1–0 Hull                                                                             

Sgoriodd Sol Bamba unig gôl y gêm wrth i Gaerdydd guro Hull yn Stadiwm y Ddinas nos Sadwrn.

Mae tymor gwych Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn parhau wedi i’r capten, Bamba, sicrhau’r tri phwynt sydd yn eu cadw o fewn cyrraedd Wolves ar frig y tabl.

Roedd yr hanner cyntaf yn ddigon cyfartal ond Hull a ddaeth agosaf at agor y sgorio pan darodd Nouha Dicko y postyn o ongl dynn, a hynny ar ôl curo Neil Etheridge yn y gôl.

Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl ac fe ddaeth y gôl holl bwysig toc cyn yr awr pan beniodd Bamba i gefn y rhwyd wedi i Anthony Pilkington benio cic rydd wych Lee Tomlin ymlaen i’w lwybr.

Cafodd Hull hanner cyfleoedd wedi hynny ond amddiffynnodd Bamba a’i gyd amddiffynnwyr yn gyfforddus iawn i sicrhau y lechen lân a’r tri phwynt.

Mae’r pwyntiau hynny yn eu cadw yn ail, bedwar pwynt tu ôl i Wolves ar y brig ond bedwar pwynt yn glir o Bristol City yn y trydydd safle.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier (Paterson 82’), Ecuele Manga, Bamba, Bennett, Tomlin (Halford 83’), Ralls, Damour, Mendez-Laing, Pilkington (Bogle 68’), Hoilett

Gôl: Bamba 57’

Cerdyn Melyn: Bamba 51

.

Hull

Tîm: McGregor, Tomori, Dawson, Mazuch, Aina, Hector, Larsson, Toral (Bowen 64’), Irvine, Grosicki, Dicko (Diomande 67’)

.

Torf: 18,049