Derwyddon Cefn 0–2 Bangor
Mae Bangor yn ail yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl curo’r Derwyddon Cefn ar y Graig nos Sadwrn.
Sgoriodd Dean Rittenberg i’r Ddinasyddion yn yr hanner cyntaf cyn i Luke Wall sicrhau’r tri phwynt yn yr ail hanner.
Gwastraffodd Ashley Ruane gyfle da i roi’r Derwyddon ar y blaen cyn i Rittenberg wneud hynny i’r ymwelwyr wedi wyth munud, y blaenwr yn rhwydo gydag ergyd isel gywir o ugain llath wedi sodliad deheuig Danny Gosset i’w lwybr.
Seren y gêm, Gosset, ei hun a gafodd y cyfle gorau i ddyblu’r fantais ond anelodd ei ergyd yn syth at Michael Jones yn y gôl ac un oedd ynddi wrth droi.
Roedd yr ail hanner yn un agos a chyfleoedd clir y brin yn y ddau ben.
Bu rhaid aros tan saith munud o’r diwedd am y gôl nesaf, Wall yn codi’r bêl yn daclus dros Jones wedi i Gary Taylor-Fletcher fesur ei bas i’w lwybr yn berffaith.
Bu bron i Rittenberg ychwanegu ei ail ef a thrydedd ei dîm yn yr eiliadau olaf ond roedd dwy gôl yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Fangor a’u codi i’r ail safle yn y tabl. Mae’r Derwyddon ar y llaw arall yn aros yn chweched.
.
Derwyddon Cefn
Tîm: Jones, Arsan (Buckley 80’), Hesp, Eckersley, Mudimu, Ruane (ap Gareth 63’), Pritchard, Davies, Simpson, Hajdari (Taylor84’), Ashton
.
Bangor
Tîm: Hall, Connolly, Kennedy, Wall, Gosset, Hewitt, Taylor-Fletcher, Holmes, Shaw, Rittenberg, Wilson
Goliau: Rittenberg 8’, Wall 83’
.
Torf: 207