Mae tîm pêl-droed Sunderland, o dan arweiniad cyn-reolwr Cymru Chris Coleman, wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y Stadium of Light ers 364 o ddiwrnodau.
Daeth y gôl fuddugol i Josh Maja, 18, dair munud ar ddeg cyn y chwiban olaf wrth iddyn nhw drechu Fulham o 1-0 i’w codi allan o waelodion y Bencampwriaeth.
Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill gartref ers Rhagfyr 17 y llynedd, pan guron nhw Watford o 1-0.
Cyn heddiw, roedd Fulham wedi ennill tair gêm allan o bedair ac mae’n golygu bod rhediad Sunderland o 21 o gemau heb fuddugoliaeth hefyd yn dod i ben.
Cafodd Chris Coleman ei benodi’n rheolwr ar Dachwedd 17, gan adael swydd Cymru ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.