Caergrawnt 1–2 Casnewydd                                                          

Sgoriodd Joss Labadie gôl hwyr iawn wrth i Gasnewydd gipio buddugoliaeth ddramatig oddi cartref yn erbyn Caergrawnt yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Un gôl yr un oedd hi wrth i’r chwiban olaf agosáu yn Stadiwm yr Abaty ond fe ddwynodd Labadie y pwyntiau i gyd i’r Alltudion yn y pedwerydd  munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Rhoddodd Shaun McCoulsky yr ymwelwyr o dde Cymru ar y blaen dri munud cyn yr egwyl ond ymatebodd Caergrawnt yn dda ar ôl troi.

Roeddynt yn llawn haeddu dod yn gyfartal pan rwydodd Jevani Brown o bellter chwarter awr o ddiwedd y naw deg.

Yn ôl y daeth Casnewydd serch hynny gan adennill y fantais yn eiliadau olaf y gêm wrth i gic y gôl geidwad, David Forde, wyro oddi ar Labadie ac i gefn y rhwyd!

Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd i’r nawfed safle yn y tabl, bwynt yn unig o’r safleoedd ail gyfle.

.

Caergrawnt

Tîm: Forde, Halliday, Taylor, Taft, Carroll, Elito, Lewis (Dunk 64’), O’Neil (Mingoia 45’), Maris, Brown, Azeez

Gôl: Brown 76’

Cerdyn Melyn: Halliday 56’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe (Willmott 57’), White, O’Brien (Bennett 45’), Demetriou, Butler, Labadie, Dolan, Tozer, Nouble, McCoulsky (Amond 85’)

Goliau: McCoulsky 42’, Labadie 90+4’

Cardiau Melyn: White 57’, Nouble 66’, Labadie 80’

.

Torf: 3,632