Mae sylwebydd pêl-droed BBC Cymru, Iwan Roberts wedi trydar ei fod e wedi cael croeso Cymraeg yn Stadiwm Abbey yng Nghaergrawnt heddiw.
Mae Casnewydd wedi teithio i herio Cambridge United yn yr Ail Adran.
Ar fwrdd y sylwebyddion, mae arwydd yn dweud ‘Croeso hyd at 2017/18, Profiad y Wasg yn Stadiwm yr Abaty’.
Mae Casnewydd yn ddeuddegfed yn y tabl, a Chaergrawnt un safle islaw.
Lovely welcome from @CambridgeUtdFC diolch yn fawr iawn. pic.twitter.com/YymNGKiAbI
— Iwan Roberts (@iwanwroberts) December 16, 2017