Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi amddiffyn ei chwaraewr canol cae, Renato Sanches yn dilyn beirniadaeth o’i berfformiad yn erbyn Bournemouth yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Cafodd y chwaraewr o Bortiwgal, sydd ar fenthyg am dymor o Bayern Munich, ei dynnu oddi ar y cae ar ôl 71 munud.

A doedd ei berfformiad ddim wedi plesio Robbie Savage, Tim Sherwood na Chris Sutton wrth iddyn nhw asesu’r gêm.

Ond mae’n bosib y caiff e gyfle arall i ddangos beth mae’n gallu ei wneud wrth i Abertawe deithio i Stamford Bridge i herio Chelsea nos Fercher (7.45pm).

‘Beth sydd gan y crwt yma?’

Dywedodd Robbie Savage ei fod e wedi ei wylio droeon i Bayern Munich, cyn gofyn, “Beth sydd gan y crwt yma?” a dweud ei fod e’n “achos pryder”.

Ychwanegodd ei fod yn “disgwyl gwell” ganddo fe yn dilyn symudiad lle methodd e â chroesi’r bêl yn gywir i’r cwrt cosbi.

Dywedodd Chris Sutton fod yn “reswm pam aeth e i Abertawe”, gan gyfeirio at y ffaith fod Bayern Munich yn teimlo bod angen iddo fe gael ymarfer ac amser ar y cae yn dilyn cyfnod helaeth allan o’r gêm yn dilyn anaf.

Wrth grybwyll ei ddylanwad ar weddill y garfan, ychwanegodd Robbie Savage fod Renato Sanches “wedi dangos dim byd iddyn nhw”.

‘Pam ei fod e’n cael rhagor o gyfleoedd?’

Ond fe ddaeth y feirniadaeth fwyaf gan Tim Sherwood, wrth iddo gwestiynu pam fod Paul Clement yn parhau i ddangos ffydd ynddo fe er gwaethaf ei berfformiadau.

Awgrymodd pe bai Renato Sanches yn un o chwaraewyr yr Academi “na fyddech chi fyth yn ei weld e eto”.

“Pam ei fod e’n cael rhagor o gyfleoedd? Gadewch i ni fod yn gywir, mae’n haws chwarae i Bayern Munich nag ydyw i Abertawe sy’n ei chael hi’n anodd yn yr Uwch Gynghrair.

“Bayern Munich, gwrthwynebwyr llai, chwaraewyr o safon fyd-eang o’ch cwmpas, gallwn ni i gyd edrych fel chwaraewyr digon da.”

Awgrymodd fod Abertawe’n “rhy gyffrous” wrth weld eu cyfle i’w arwyddo, ac y bydd e’n “cael pob cyfle oherwydd ei enw da”.

‘Anghyson’

Ond ym marn prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement, mae perfformiadau Renato Sanches wedi bod yn “anghyson” yn hytrach na “gofidus”, er iddo gyfaddef nad oedd e wedi clywed sylwadau’r triawd dros y penwythnos.

“Welais i mo hynny ddydd Sadwrn. Mae gen i fy syniadau fy hyn am y ffordd y chwaraeodd e.

“Dyw gofidus ddim yn derm y byddwn i’n defnyddio ar gyfer y perfformiad hwnnw. Ro’n i’n meddwl ei fod yn berfformiad oedd yn anghyson.

“Roedd pethau da iawn ynddo fe. Mae e wedi dangos, o ystyried ei oedran e, ei fod e’n gorfforol ac yn ddewr. Dyw e ddim yn cuddio ar ôl gwneud camgymeriad.

“Dydych chi ddim yn ei weld e’n cilio i’r cyrion. Mae e’n dod yn ôl ac yn mynd am y bêl eto.”

Awgrymodd fod chwaraewyr fel Renato Sanches, sy’n ei daflu ei hun i ganol y gêm, yn debygol o wneud mwy o gamgymeriadau na chwaraewyr sy’n aros ar y cyrion.

“Fe wnaeth e ambell beth oedd yn rhwystredig, yn enwedig pan gawson ni’r bêl wrth symud ymlaen, pan oedden ni’n gwrthymosod, pan gawson ni ambell gyfle da.

“Felly roedd e’n anghyson. Roedd rhai pethau’n dda, rhai pethau’n wael. Byddai gofidus i fi yn awgrymu bod popeth rydych chi’n ei wneud yn anghywir, yn wael a phe bai hynny’n wir fe fyddai e wedi dod oddi ar y cae dipyn cynt.”

Ymateb y dorf

Wrth i’r Elyrch barhau’n bedwerydd ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair, gyda naw phwynt ar ôl 13 o gemau, mae pawb – o Paul Clement, i’r chwaraewyr a’r perchnogion Americanaidd – yn destun beirniadaeth gan y dorf ar y terasau ar hyn o bryd.

Ond mae Paul Clement yn falch o ymateb y dorf i Renato Sanches ers iddo symud i Abertawe.

“Dw i’n credu bod y dorf yn sylweddoli fod ganddo fe gryn bersonoliaeth. Dyw e ddim yn cuddio mewn sefyllfaoedd, mae e eisiau mynd ar ôl y bêl o hyd. Mae ganddo fe dipyn mwy i’w roi, yn sicr.

“Mae e wedi mynd ati gam wrth gam o’r adeg pan ddaeth e i mewn a chwarae yn ei gêm gyntaf yn erbyn Newcastle lle’r oedd disgwyliadau uchel a wnaeth e ddim dechrau ar ei orau.

“O’r fan honno, ry’n ni wedi gweld camau bychain. Os yw e’n parhau i wneud hynny, fydd hi ddim yn hir cyn iddo fe berfformio ar lefel dda.”