Mae amser yn mynd yn brin i Roque Mesa, chwaraewr canol cae tîm pêl-droed Abertawe, i brofi ei hun, yn ôl y prif hyfforddwr Paul Clement.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Sbaenwr awgrymu y byddai’n barod i droi ei gefn ar Gymru pan fydd y ffenest drosglwyddo’n agor ym mis Ionawr.

Mae adroddiadau yn y wasg yn Sbaen yn awgrymu y gallai ddychwelyd i gynghrair La Liga ac i glwb Malaga.

Rhwystredigaeth o’r ddwy ochr

Ymunodd Roque Mesa ag Abertawe o glwb Las Palmas am £11 miliwn dros yr haf ond ers hynny, dim ond chwe gwaith mae e wedi chwarae – gan gynnwys tair gêm yn unig yn yr Uwch Gynghrair.

Tra bod Paul Clement yn mynnu nad yw’r clwb wedi derbyn unrhyw gynigion nac wedi trafod y posibilrwydd o drosglwyddiad ym mis Ionawr, mae e’n cyfaddef fod amser yn rhedeg allan i’r Sbaenwr.

“Rhaid i fi fod yn onest a dweud bod y cyfnod addasu ar ben,” meddai. “Mae mis Tachwedd wedi cyrraedd ac fe fydd e, a’r chwaraewyr eraill o ran hynny, yn cael eu dewis ar sail haeddiant.

“Yn amlwg, oherwydd nad yw e wedi chwarae, mae’n bosib fod ei hyder braidd yn isel. Hyd yn oed yn yr isymwybod, mae’r hyder braidd yn isel.

“Ddoe, do’n i ddim wedi ei weld e’n dda wrth ymarfer. Heddiw, fe welais i fe’n dda iawn. Pan fydda i’n gweld arwyddion o gysondeb gan y chwaraewr – gan unrhyw chwaraewr, fe fydd e’n cael ei gyfle.”

Dyfodol y rheolwr

Mae’r diffyg hyder sydd i’w weld ym mherfformiadau Roque Mesa i’w weld drwy’r garfan gyfan ar hyn o bryd.

Ar ôl deuddeg gêm, mae’r Elyrch yn canfod eu hunain yn bedwerydd ar bymtheg yn y tabl ar ôl cael wyth pwynt yn unig – gan gynnwys dim ond dwy fuddugoliaeth.

Maen nhw bellach wedi colli pedair gêm o’r bron ac mae’r pwysau ar y prif hyfforddwr yn dechrau cynyddu’n sylweddol.

Ond mae Paul Clement yn mynnu bod gan y perchnogion Americanaidd, Steve Kaplan a Jason Levien bob ffydd ynddo fe a’u bod nhw’n barod i roi rhagor o amser iddo fe ddatrys y sefyllfa.

Un o’r rhesymau am y sicrwydd hwnnw, yn ôl Paul Clement, yw ei lwyddiant wrth gadw’r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf.

“Fe allai Abertawe fod wedi bod yn chwarae pêl-droed yn y Bencampwriaeth erbyn hyn. Y ffaith yw, pan ddes i i mewn, a gyda chymorth y staff cynorthwyol, y perchnogion a’r chwaraewyr, roedden ni wedi gallu llwyddo.

“Does dim amheuaeth gyda fi yn fy ngallu fy hun i weithio ar y lefel yma, ond ry’n ni mewn sefyllfa anodd.

“Ond mae gyda ni chwaraewyr gwahanol. Dw i wedi mynd o gymryd tîm drosodd oedd yn ei chael hi’n anodd ganol y tymor, i ddechrau gyda’r tîm hwn. Mae’n sefyllfa wahanol.

“Ydw i wedi prynu amser i fi fy hun? Dw i ddim yn gwybod, dyna’r ateb i hynny. Y perfformiadau yw’r ateb i bopeth.”

Penderfyniad y perchnogion a neb arall

Er ei fod e dan bwysau, mae e’n hyderus na fydd y perchnogion yn penderfynu ar ei ddyfodol ar sail yr hyn sy’n cael ei ddweud amdano gan y wasg na’r cefnogwyr.

“Mae ganddyn nhw ddigon o brofiad yn y byd pêl-droed – y cadeirydd a’r perchnogion – fel na fyddan nhw’n cael eu bwlio. Nhw fydd yn gwneud y penderfyniad.

“Wrth gwrs, dw i’n credu bod pawb yn gweld ’mod i wedi gallu gwneud jobyn da pan ddes i i mewn, ac maen nhw’n gweld fy ngallu ar y lefel yma, a gobeithio y caf fi amser.”