Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn ffrwgwd yng ngêm Y Rhyl yn erbyn tîm dan-23 oed Leeds.

Fe fu’n rhaid dod â’r gêm i ben yn ystod yr ail hanner.

Mae deunydd fideo yn dangos mai chwaraewr Y Rhyl, Tony Davies oedd yn bennaf gyfrifol ar ôl cyfres o ergydion â’i ddwrn.

Fe gerddodd tîm Leeds oddi ar y cae yn dilyn y ffrwgwd, ac fe ddaeth y gêm i ben yn ddi-sgôr.

Ymchwiliad

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd Clwb Pêl-droed Y Rhyl: “Ar ôl i’r gêm gyfeillgar rhwng Y Rhyl a Leeds United ddod i ben yn gynnar heno (21 Tachwedd), fe fydd y clwb rŵan yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiadau a arweiniodd at ddod â’r gêm i ben yn ystod yr ail hanner.

“Fydd y clwb ddim yn cyhoeddi datganiad pellach nes bod y gwaith hwn wedi dod i ben.”