Colli oedd hanes Sunderland neithiwr yng ngêm gyntaf y Cymro Chris Coleman wrth y llyw.

Roedd goliau gan Albert Adomah a Josh Onomah yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 2-1 i Aston Villa yn y Bencampwriaeth, wrth i dîm newydd cyn-reolwr Cymru golli am y nawfed tro y tymor hwn.

Daeth gôl hwyr gan Lewis Grabban ond doedd hi ddim yn ddigon i godi Sunderland oddi ar waelod y tabl, ac maen nhw bedwar pwynt islaw’r safleoedd diogel.

Rhybudd

Mae Chris Coleman wedi rhybuddio ei dîm mai “dim ond nhw” sy’n gallu sicrhau eu bod nhw’n goroesi y tymor hwn.

Mae’r tîm o ogledd-ddwyrain Lloegr yn wynebu cwympo am yr ail dymor yn olynol, ond mae’r Cymro’n dweud bod digon o ysbryd yn y garfan.

“Mae’r hwyliau braidd yn isel gyda ni ar hyn o bryd, ar y gwaelod gyda 10 chwaraewr tîm cyntaf heb fod ar gael.

“Dim esgusodion, ry’n ni ar waelod y gynghrair ac weithiau mae hynny’n digwydd, rydych chi’n cael newyddion drwg ar ôl newyddion drwg.”

A’r newyddion drwg diweddaraf yw fod yr ymosodwr Duncan Watmore yn wynebu cyfnod hir allan o’r gêm ar ôl anafu ei benglin, ac fe fydd rhaid iddo fe gael llawdriniaeth.

“Dim ond ni sy’n mynd i gael allan o hyn, beth bynnag mae’n ei gymryd. Ar y cyfan, fe wnaethon nhw roi cynnig arni ac ar ei hôl hi o 2-0, fe allen nhw fod wedi chwalu ond wnaethon nhw ddim.

“Dyna’r eiliadau lle daw ysbryd y tîm i’r golwg. Dim ond ni all ymladd y frwydr, does neb yn mynd i ddod i’n helpu ni.”

‘Barod am yr her’

Yn ei gêm gyntaf wrth y llyw, roedd Chris Coleman yn wynebu Steve Bruce, rheolwr Aston Villa oedd yn rheolwr ar Sunderland rhwng 2009 a 2011.

Ac roedd ganddo air o gysur i’r Cymro.

“Mae’n anodd iawn i Chris. Pan gerddais i i mewn yma [yn Aston Villa] fy mhrif ofn oedd nad ydych chi byth yn rhy fawr i fynd i lawr, fe welson ni hynny. Ond mae e’n barod ar gyfer yr her a gobeithio y daw e drwyddi gyda nhw.”